Mae Wrecsam yn paratoi i gynnal un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop pan fyddwn yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2-9 Awst, 2025.
Gyda disgwyl hyd at 175,000 o ymwelwyr â’r Maes yn ystod yr wythnos, bydd yr haf hwn yn un arbennig, ac wrth galon y cyfan bydd Pentref Wrecsam, yn dangos yr hyn ydyn ni a beth sy’n bwysig i ni.

Bydd Pentref Wrecsam yn ganolfan fywiog a chroesawgar a dyma fydd llecyn Wrecsam ar y Maes, yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig, o’n diwylliant a’n creadigrwydd i’n hysbryd cymunedol.
Wedi’i gynllunio i fod yn ganolfan fywiog o weithgareddau, bydd Pentref Wrecsam yn cynnig rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw a thrafodaethau diddorol wedi’u curadu gan FOCUS Wales ym mhrif ardal Cromen, yn ogystal â gweithgareddau i blant yn ein Pabell Chwarae a digon o le i eistedd, ymlacio a rhoi hwb i’r egni drwy gydol y dydd.

Bydd cynnyrch lleol, nwyddau artisan, a chelf ac anrhegion gan wneuthurwyr a busnesau lleol hefyd ar gael i ymwelwyr, yn ogystal â digon o wybodaeth ddefnyddiol am Wrecsam, ein gwasanaethau a’n sefydliadau lleol, a gwaith yr awdurdod lleol yn y Cytiau drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad mawr o hanes, diwylliant ac iaith Cymru.
“Ar ôl ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ers pan oeddwn yn blentyn ifanc, a chymryd rhan ynddi, rwy’n falch iawn ac yn llawn cyffro ein bod yn ei chynnal yn Wrecsam eleni, ac rwy’n annog pawb i ymweld â’r ŵyl a Phentref Wrecsam, yn ogystal â chymryd rhan yng ngweithgareddau Ymylol Wrecsam ar hyd a lled y sir. Mwynhewch!”
Fel rhan o bresenoldeb ehangach Wrecsam yn yr Eisteddfod, bydd Tŷ Pawb, canolfan gelf ddiwylliannol Wrecsam, yn curadu ‘Y Lle Celf’, oriel genedlaethol eiconig yr Eisteddfod ar y Maes. Yn arddangos detholiad wedi’i guradu o gelf, crefft a phensaernïaeth gyfoes, mae’r Lle Celf yn un o arddangosfeydd celf dros dro mwyaf Ewrop ac yn un o brif uchafbwyntiau rhaglen yr Eisteddfod.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, a Hyrwyddwr y Gymraeg, ac sydd â chyfrifoldeb dros Tŷ Pawb: “Mae Tŷ Pawb yn parhau i fod wrth wraidd enw da Wrecsam am fod yn ganolfan ddiwylliannol o bwys, ac mae ei rôl yn curadu’r Lle Celf eleni yn enghraifft berffaith o hynny, ac yn gyfle gwych i rannu ein diwylliant a’n sîn gelfyddydol fywiog gyda chynulleidfa genedlaethol.
Mae’r arddangosfa eleni yn dod â gwaith rhagorol ynghyd, gan artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt.
Mae’r Eisteddfod yn ddathliad nid yn unig o’r Cymraeg, ond o’n creadigrwydd, ein hamrywiaeth a’n hyder diwylliannol – ac rwy’n falch iawn y bydd Wrecsam yn chwarae rhan mor ganolog ynddi.”

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn foment bwysig i Wrecsam – sir a dinas-ranbarth sydd â’i henw dar ar gyfer diwylliant, creadigrwydd a chymunedau yn tyfu drwy’r amser. Mae Pentref Wrecsam yn gwahodd ymwelwyr o bell ac agos i gael blas ar y gorau sydd gan Wrecsam i’w gynnig – y cyfan mewn un lle. Welwn ni chi yno!