Bydd y sioeau poblogaidd Cerddoriaeth Fyw yn parhau ddydd Iau yma yn Tŷ Pawb gyda pherfformiad arbennig iawn yn dathlu hanes a bywyd Dyfrffordd Pontcysyllte a ysgrifennwyd i ddathlu 10 mlynedd ers iddi gael ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cynhelir y cyngerdd am ddim a bydd yn cynnwys gwaith newydd a ysgrifennwyd gan David Subacchi ac Aled Lewis Evans a Childe Rowland ynghyd â cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan bedwar o gerddorion lleol. Y gobaith yw y bydd y cyngerdd yn mynd â chi ar siwrnai o’r dechrau cyntaf hyd heddiw gan roi cipolwg ar beth mae’r Ddyfrbont wedi’i olygu i wahanol genedlaethau sydd wedi mynd heibio.
“Yr adeiledd mwyaf eiconig”
Dywedodd y trefnydd Derek Jones: “Ni ellir tanbrisio arwyddocâd y Ddyfrbont. Mae ei phwysigrwydd i’r chwyldro diwydiannol pan agorodd am y tro cyntaf a’r miloedd o dwristiaid a ddenir yno hyd heddiw yn adlewyrchiad o’i gwytnwch. Dyma’r adeiledd mwyaf eiconig yn y fwrdeistref sirol ac mae llenorion a cherddorion lleol wedi cael llawer o ysbrydoliaeth ganddi i gynhyrchu gwaith a fydd yn cael ei arddangos am y tro cyntaf ddydd Iau.”
Mae’r cyngerdd yn dechrau am 1pm gydag 19 o berfformiadau ar wahân, un i gynrychioli pob bwa, a daw’r cyngerdd i ben am 14.20pm.
Y prif lenorion a pherfformwyr yw David Subacchi, bardd o Wrecsam, Aled Lewis Evans, bardd a llenor Cymraeg, y pianydd Jago Parkyn, y canwr/cyfansoddwr Owen Chamberlain, y pianydd a’r feiolinydd Honor Parkinson a’r pianydd Bruce Davies.
Mae’n rhad ac am ddim ond mae’r sioeau Cerddoriaeth Fyw yn eithriadol o boblogaidd felly fe’ch cynghorir i gyrraedd yn gynnar!