Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn? Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod a dewch draws i Ddiwrnod Plannu Coed bant Lilac Way ar ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd 2024.
Cefndir
Cyllido yn llawn – Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw.
Bydd yn helpu tuag at ein nodau fel rhan o Addewid Coetir Wrecsam (sy’n amlinellu ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi coed, a gwarchod y coetir presennol ar draws y fwrdeistref sirol).
Ar y diwrnod
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd o 10am – 3pm (mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch).
Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain. Bydd te/coffi ynghyd â chyfleusterau toiledau, ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Maesgwyn gerllaw.
Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau.
Darperir yr holl offer ac mae menyg ar gael i’w defnyddio. Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!
Byddwn ar y safle rhwng 10am – 3pm ond mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch.
Man cyfarfod
Byddwn yn cyfarfod yn y maes parcio bant Canolfan Gymunedol Maesgwyn, Lilac Way, LL11 2BB.
Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb
Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.
Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?
Rydym yn galw ar fusnesau, unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion a hoffai helpu i blannu coed gyda Chyngor Wrecsam, i gysylltu â ni, gan y bydd mwy o gyfleoedd trwy gydol y gaeaf i bobl gymryd rhan.
Cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: