Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn
Y cyngor

Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 6, 2026 10:06 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cerdded a beicio yn Wrecsam – rhowch eich barn
RHANNU

Yn gynharach eleni, gofynnom am eich barn ar sut y gellir gwella’r ddarpariaeth ar gyfer beicio a cherdded yn Wrecsam. Rydym bellach wedi ystyried yr holl sylwadau yn ofalus ac wedi cyfuno’r farn gyhoeddus hon â gwybodaeth berthnasol arall i lunio drafft o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) sy’n barod i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Rydym am ddarparu rhwydwaith i Wrecsam sy’n galluogi cerdded, defnyddio cymhorthion symudedd (fel cadeiriau olwyn) a beicio i ddod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio ar gyfer teithiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw ynddynt.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a defnyddwyr cymhorthion symudedd yn rheolaidd. Cymeradwywyd ein map presennol gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae’n bryd nawr adlewyrchu’r newidiadau a’r gwelliannau a wnaed dros y bedair blynedd diwethaf.

Rydym yn adolygu ac yn mireinio’r Map Rhwydwaith i gynnwys:

•            Llwybrau Presennol: Dyma lwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cymhorthion symudedd (neu’r tri).

•            Llwybrau’r Dyfodol: Dyma lwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto, sydd angen gwelliannau i fodloni’r safonau gofynnol, neu sydd angen awdit er mwyn sicrhau eu bod yn pasio.

Cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol rhwng 2 Ebrill ac 18 Mai, yn ogystal â nifer o sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn ardaloedd lleol lle gofynnom am eich mewnbwn ar sut i wella llwybrau cerdded a beicio yn eich ardal.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i deithio’n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hyderus ar draws Wrecsam.”

Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cynharach ac a rannodd eu barn. Mae’r adborth hwnnw wedi helpu i lunio’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig, ac rydym nawr eisiau i drigolion, cymunedau a sefydliadau lleol edrych eto a dweud eu dweud.”

Pwrpas hyn yw creu rhwydwaith sy’n cefnogi ffyrdd iachach o fyw, sy’n gwella teithiau lleol ac sy’n helpu i wneud Wrecsam yn lle mwy cysylltiedig a gwell i fyw.”

Mae’r sylwadau a’r awgrymiadau wedi’u hadolygu, ac mae mapiau wedi’u paratoi ar gyfer ymgynghoriad statudol 12 wythnos. Bydd hwn yn rhedeg rhwng 29 Mehefin a 22 Medi 2026. Cyflwynir y map diwygiedig i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.

Gofynnwn yn garedig i chi edrych ar y map a rhoi eich barn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Erthygl nesaf Mobile phone Diweddariad diogelwch ar gyfer FyNghyfrif

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English