Mae gan Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam newyddion cyffrous wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod ar y rhestr fer am Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd 2018 yr elusen Kids in Museums. Hon yw’r wobr fwyaf i amgueddfeydd ym Mhrydain, a’r unig un lle mae plant a theuluoedd yn dewis yr enillydd.
Enwebwyd yr amgueddfa gan deuluoedd lleol a chafodd ei gosod ar y rhestr fer wedyn gan dîm Kids in Museums yn erbyn amgueddfeydd eraill yn y DU.
Dros yr haf, bydd yr amgueddfeydd ar y rhestr fer yn cael eu rhoi ar brawf yn anhysbys gan deuluoedd, gan ddefnyddio Maniffesto Bychan Kids in Museums fel arweiniad i’w helfennau croesawgar i deuluoedd. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
“Yr ail dro i ni gael ein henwebu”
Meddai Emmajane Avery, Cadeirydd Kids in Museums: “Fe wnaeth ansawdd uchel enwebiadau eleni ar gyfer y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, a’r gwaith gwych sy’n digwydd i groesawu teuluoedd mewn amgueddfeydd ar hyd a lled y wlad, argraff dda iawn arnom ni. Mae’n anhygoel bod cymaint o amgueddfeydd yn defnyddio ein Maniffesto i lunio eu gwaith gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc, ac yn gwrando ac yn ymateb i’w hadborth.
“Dyma’r ail dro i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam gael ei rhoi ar y rhestr fer am y Wobr, ac mae hyn yn dyst i’r croeso y mae teuluoedd lleol yn ei gael yn yr amgueddfa. Mae teuluoedd wrth eu boddau gyda’r staff a’r gwirfoddolwyr cyfeillgar, y caffi hyfryd a’r Parth Dychymyg newydd i blant dan 5 oed.”
“Dymuno pob lwc iddyn nhw”
Meddai Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n falch iawn fod Amgueddfa ac Archifdy Wrecsam wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer unwaith eto am wobr mor fawreddog.”
“Mae ymroddiad, ymrwymiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr yn creu ymweliad diogel, croesawgar a phleserus i bob ymwelydd, gan gynnwys teuluoedd. Rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB