Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 i rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid dros y gaeaf.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, dim ots ai ydyn nhw’n talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy debyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.
Cymhwysedd
Rhaid i un aelod o’r cartref fod yn derbyn un o’r budd-daliadau lles prawf oedran gweithio canlynol:
- Cynllun gostyngiad Treth y Gyngor
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Presenoldeb
- Lwfans Gofalwyr
- Gredydau Treth Plant
- Lwfans Presenoldeb Cyson
- Lwfans Cymorth a Chyflogaeth Newydd/Cyfrannol
- Lwfans Ceisio Gwaith Newydd/Cyfrannol
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Cymorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Gredyd Cynhwysol
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Gredyd Treth Gwaith
Os nad yw deiliad tŷ (neu ei bartner) sy’n atebol am dalu’r costau tanwydd yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, dylid pennu/ystyried bod deiliad y tŷ yn gymwys i gael taliad os oes person cymwys yn byw gydag ef.
Mae person yn bodloni’r diffiniad o berson cymwys os yw’n:
- Meddiannu cartref deiliad y tŷ fel ei brif breswylfa ac
- Yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sy’n byw gyda ddeiliad y tŷ (neu ei bartner) ac
- Mae’n cael un o’r budd-daliadau:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Mae hyn yn adlewyrchiad o’r costau ynni uwch sy’n arferol mewn aelwyd lle mae person anabl yn byw, a dull synnwyr cyffredin sy’n cydnabod bod Lwfans Byw i Bobl Anabl yn cael ei ddyfarnu’n bennaf i blentyn anabl o dan 16 oed (na all fod yn ddeiliad tŷ).
Sut i wneud cais
Byddwn yn ysgrifennu at aelwyd sy’n gymwys ac yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor. Byddwn yn gofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r hawliad, ynghyd a manylion i ganiatáu’r taliad.
Fel arall, os credwch eich bod yn gymwys i gael y gefnogaeth hon gallwch gyflwyno cais trwy ein ffurflen ar-lein.
Os byddwch chi’n parhau i wynebu caledi ariannol difrifol, efallai yr hoffech chi wneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF).
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD