Mae’r blog yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu cyhoeddi drwy gydol Wythnos Waith Ieuenctid 2018
Mae Wythnos Waith Ieuenctid wedi’n cyrraedd ac ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin cewch gyfle i gwrdd â’r bobl y tu ôl i’r gwaith ardderchog sy’n digwydd yn yr ardal leol.
Bydd y tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg yn Nhŷ Pawb a dyma ychydig o wybodaeth gefndir amdanynt i’ch rhoi chi ar ben ffordd…
Beth maen nhw’n ei wneud?
Mae Gwaith Ieuenctid mewn Addysg yn dîm o weithwyr ieuenctid sydd wedi eu lleoli mewn nifer o ysgolion uwchradd yn Wrecsam.
Mae’r gweithwyr ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i bobl ifanc pan eu bod yn yr ysgol. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i sylweddoli a deall eu potensial, a’u cefnogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i greu dyfodol llwyddiannus.
Mae Gwaith Ieuenctid mewn Addysg yn cefnogi pobl ifanc gyda’u trawsnewidiadau parhaus drwy fywyd ac addysg.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Amrywiaeth o gefnogaeth
Mae’r gweithwyr ieuenctid yn cynnig ystod o gefnogaeth gan gynnwys gwaith grŵp, cymorth personol, sesiynau yn seiliedig ar faterion a sesiynau galw heibio i bobl ifanc. Mae’r sesiynau hyn yn trafod themâu fel gwydnwch, y celfyddydau, cyfeillgarwch, rhyw a pherthnasoedd a hunan-barch.
Yr hyn sy’n allweddol, yw nad y gweithwyr ieuenctid sy’n dewis y sesiynau. Maent yn gwrando’n astud ar yr hyn y mae’r bobl ifanc eisiau a’i angen, ac yna’n gweithio gyda nhw i wneud iddo ddigwydd.
Cefnogaeth i rieni
Mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda theuluoedd ac yn cynnal cyrsiau Seibiant i Rieni sy’n cefnogi rhieni mewn sawl ffordd.
I gael rhagor o wybodaeth ar Waith Ieuenctid mewn Addysg, cysylltwch ag Andrea Jackson ar 01978 316750.
Bydd hefyd nifer o wasanaethau eraill yn hyrwyddo eu gwaith a digon o hwyl a gweithgareddau anffurfiol i gymryd rhan ynddynt.
Meic agored
Un o’r digwyddiadau hyn yw sesiwn meic agored yn dechrau am 1pm ac yn nes ymlaen am 3pm fe gewch chi wledd, wrth i Luke Gallagher berfformio cerddoriaeth fyw.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB