Gall fynd am gyfweliad fod yn ofnus – yn enwedig pan rydych ychydig dros 16 ac yn edrych am eich lle cyntaf yn y coleg neu yn y byd gwaith.
Beth yn union ydych chi’n rhoi ar eich CV? A fydd ganddynt ddiddordeb yn hwn neu’r llall? Beth ddylwn i wisgo? A ddylwn i siarad gyntaf? Mae popeth yn dod yn haws gyda phrofiad, ac yn Ysgol Rhiwabon, maent wedi dechrau rhoi cyfle cynnar iddynt i gael y profiad hwnnw. Er mwyn paratoi ar gyfer byd coleg neu waith.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Maent wedi gweithio’n ddiweddar gyda Gyrfa Cymru i wahodd cyflogwyr i’r ysgol i gynnal cyfweliadau ffug. Daeth tua 20 o gyflogwyr i wynebu’r her, a rhoi prawf i’r bobl ifanc. Roeddent yn amrywio o’r Fyddin a Wockhardt i Kronospan a BT.
Atebodd disgyblion blwyddyn 11 yr her a chreu argraff ar bawb gyda’u CV, eu hatebion i gwestiynau a’u hymddangosiad wrth gwrs, rhywbeth a sylwodd y pennaeth arno’n benodol.
Dywedodd Mrs Ferron-Evans: “Mae’r adborth a dderbyniwyd gan bob un o’r cyflogwyr oedd yn bresennol yn wych, ac rydw i’n falch iawn o’r myfyrwyr, o’r ffordd roeddent yn edrych a’r ffordd wnaethant ymddwyn”
Mae Gyrfa Cymru yn gweithio gydag ysgolion ar draws Wrecsam, ac rydym yn gobeithio dod â rhagor o newyddion o beth maent yn ei wneud gyda’r disgyblion wrth eu paratoi i adael yr ysgol yn 16.
Dywedodd Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Ymgysylltiad Busnes a drefnodd y digwyddiad: “Fe wnaeth y disgyblion yn hynod o dda gan greu argraff ar gyflogwyr a oedd wedi rhoi adorth ardderchog ar y ffordd roedd y myfyrwyr wedi ymddwyn. Dylai phob un ohonynt ymfalchïo, ac rwy’n gobeithio bod y digwyddiad wedi rhoi’r hyder y mae ei angen arnynt yn ystod y misoedd nesaf wrth iddynt ddechrau ymgeisio ar gyfer addysg bellach neu waith.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN