Sut i gael help os ydych chi’n poeni am ddyled
Ar ôl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae llawer o bobl yn cael eu gorfodi i fyw’n dyn ym mis Ionawr.
Mae llawer ohonom yn dibynnu ar gredyd i dalu am y Nadolig, ac yn teimlo pwysau i wario mwy nag y gallwn ei fforddio – a all olygu poendod meddwl ariannol i ni.
Eleni, mae’r argyfwng costau byw eisoes yn rhoi aelwydydd dan bwysau, ac anogir unrhyw un sy’n cael trafferth gyda dyled i geisio cymorth.
Mae amryw o elusennau a gwasanaethau a gefnogir gan y Llywodraeth yn cynnig cymorth, gan gynnwys…
Step Change
Elusen ddyled yn y DU sy’n cynnig cyngor diduedd am ddim.
National Debtline
Elusen arall yn y DU sy’n ymroddedig i ddarparu cyngor diduedd am ddim ar ddyledion.
HelpwrArian
Menter a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy’n cyfuno cymorth gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
Cyngor ar Bopeth
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan genedlaethol Cyngor ar Bopeth.
Gall trigolion Wrecsam hefyd ffonio Cyngor ar Bopeth ar 0300 330 1178.
Y peth pwysicaf yw gofyn am help, a gwneud yn siŵr eich bod yn siarad ag elusen neu sefydliad sefydledig sydd â’ch budd pennaf yn ganolog.
Mae gadael problemau dyled i gronni fel arfer yn gwneud pethau’n waeth, felly mae’n well mynd i’r afael â nhw yn uniongyrchol gyda chymorth cynghorydd dyled hyfforddedig a phrofiadol.
Fis Hydref diwethaf, sefydlodd Cyngor Wrecsam weithgor trawsbleidiol i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r grŵp:
“Gall mis Ionawr fod yn gyfnod anodd, ac os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled, mae’n bwysig iawn estyn allan a chael cymorth.
“Mae elusennau fel Step Change a National Debtline yn darparu cyngor diduedd am ddim, a gallant eich helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn.
“Fyddan nhw ddim yn eich barnu nac yn gwneud i chi deimlo’n ddrwg am eich sefyllfa – byddan nhw’n gwrando ac yn eich helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich dyledion.
“Os ydych chi’n poeni am arian, peidiwch â’i ysgubo o dan y carped na’i gadw i chi eich hun. Estynnwch allan a gofynnwch am help.”
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gostau byw ar wefan Cyngor Wrecsam – gan gynnwys grantiau a budd-daliadau, cymorth gyda biliau’r cartref, a sut i ofalu am eich iechyd a’ch lles.
O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.