Mae ymgyrch sydd wedi’i hanelu at leihau’r risg o farwolaethau ac anafiadau difrifol yn ymwneud â beicwyr modur ar ffyrdd Gogledd Cymru wedi cychwyn.
Mae Ymgyrch Darwen, sy’n cychwyn dros gyfnod y gwanwyn hyd at ddechrau’r hydref, sef cyfnod sy’n gweld y nifer uchaf o feicwyr modur yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol. Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at wella diogelwch beicwyr modur gyda phatrolau gan swyddogion ar hyd ffyrdd allweddol sy’n cael eu hadnabod fel ardaloedd peryglus.
Dros y misoedd nesaf bydd swyddogion o Uned Troseddau’r Ffyrdd ar ddyletswydd ar draws y rhanbarth a byddant hefyd yn ymgysylltu â beicwyr mewn ardaloedd poblogaidd.
Fel rhan o’r ymgyrch bydd swyddogion yn gwirio bod beiciau’n deilwng o’r ffordd, gan roi sylw arbennig i deiars. Mae teiars wedi’u gwisgo neu sydd heb ddigon o aer ynddynt ar draffyrdd wedi bod yn un o’r themâu mwyaf cyffredin mewn gwrthdrawiadau, ac eto mae’n hawdd ei atal gan feicwyr sy’n gwneud gwiriadau sylfaenol.
Mae beicwyr modur ymhlith y grwpiau o ddefnyddwyr y ffordd sydd fwyaf bregus, ac maent mewn mwy o berygl o gael eu hanafu ac o fod mewn gwrthdrawiadau na defnyddwyr eraill y ffordd. Er nad ydy beicwyr modur ar fai o bosibl, mae natur agored y drafnidiaeth yn golygu eu bod yn dioddef anafiadau mwy difrifol mewn gwrthdrawiad.
Yn 2023 cafodd 89 o feicwyr modur eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yng Ngogledd Cymru – cynnydd o 3.4% o’r flwyddyn flaenorol a chynnydd o 24% o ffigyrau 2021 a 21% yn uwch na 2019. Cafodd 8 beiciwr modur eu lladd yn 2023 (cynnydd o 33% o’r flwyddyn flaenorol).
Mae beicwyr modur yn uchel yn y ffigyrau cyfanswm anafiadau, ac ar gyfartaledd yn cynrychioli 32% o’r rhai sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y rhanbarth – cynnydd o 5%. Mae gwrthdrawiadau wedi gweld cynnydd blynyddol ac ar ei uchaf ers 2020.
“Rydym yn edrych ar fodurwyr fel rhan o Ymgyrch Darwen”
Meddai’r Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae lleihau anafiadau ar y ffyrdd yn un o’n prif amcanion. Fe fyddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn ceisio lleihau gwrthdrawiadau drwy fabwysiadu dull dim goddefgarwch.
“Rydym yn edrych ar fodurwyr fel rhan o Ymgyrch Darwen, fodd bynnag, dros fisoedd y gwanwyn a’r haf byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelwch beicwyr modur wrth i nifer fawr ohonynt gymryd mantais ar y tywydd da a’r golygfeydd gwych sydd gennym yma yng ngogledd Cymru.
“Rydym eisiau i bobl fwynhau dod i Ogledd Cymru er mwyn cael bod ar ffyrdd gwych, ond nid ar draul defnyddwyr eraill y ffordd. Rydym am i bawb fod yn gyfrifol a diogel. Tra bod y rhan helaeth o fodurwyr yn ymddwyn yn briodol, fe fyddwn yn parhau i dargedu pawb sy’n reidio neu’n gyrru’n beryglus, yn rhy gyflym, yn pasio cerbydau eraill ar linellau di-dor neu sy’n cyflawni unrhyw drosedd traffig y ffordd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys erlyn am blatiau cerbyd bach a fisorau anghyfreithlon.
“Rydym ni fel yr heddlu eisiau i bawb fwynhau ffyrdd Gogledd Cymru wrth iddi brysuro.
“Mae ein swyddogion – ynghyd â’n partneriaid o’r gwasanaethau brys eraill yn gweld llawer gormod o drasiedïau ar y ffyrdd, nifer y gellid eu hosgoi. Mae aros yn ddiogel ar y ffyrdd yn berthnasol i bob un ohonom – boed gennym ddwy olwyn neu bedair. Dwi’n annog beicwyr a gyrwyr i feddwl am eu hymddygiad a pha newidiadau gallent wneud i wella eu diogelwch eu hunain ac eraill.
“Tydi Ymgyrch Darwen ddim eisiau difetha mwynhad pobl, ond mae’n annog modurwyr a beicwyr i fod yn ddiogel gyda’r nod o leihau’r nifer o wrthdrawiadau.”
Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond, sy’n arwain ar Ymgyrch Darwen ar ran Uned Troseddau’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn gwybod fod Gogledd Cymru yn denu beicwyr modur oherwydd prydferthwch yr ardal, ac fel beiciwr modur brwdfrydig fy hun, dwi’n gwybod fy mod innau, ynghyd â fy nghydweithwyr eraill sy’n beicio, yn angerddol am sut y gallwn gydweithio er mwyn ceisio lleihau gwrthdrawiadau.
“Mae pob marwolaeth ac anaf difrifol yn cael effaith ddinistriol, felly fe wnawn ddefnyddio pob cyfle posib i siarad hefo beicwyr modur am sut y gallent chwarae eu rhan er mwyn lleihau marwolaethau ac anafiadau sy’n cael eu dioddef gan fodurwyr. Mae hyn yn cynnwys teithio ar gyflymder addas ar gyfer amodau’r ffyrdd, gwisgo dillad addas gan gynnwys helmed a bod yn ymwybodol o’r effaith y gall alcohol/cyffuriau gael ar feiciwr/gyrrwr.
“Nid trio eich atal rhag reidio ar ein ffyrdd ‘da ni, ond ceisio eich atal rhag cael eich lladd. Dewch yma, reidiwch yn ddiogel, ewch adref, a gwneud yr un peth dro ar ôl tro. Dewch yma, reidiwch yn beryglus, collwch eich trwydded – neu eich bywyd. Eich dewis chi.
Fe ychwanegodd: “Dwi’n deall bod gwrthdrawiadau yn digwydd lle nad yw’r beiciwr modur ar fai, ond os gallwn ni addysgu beicwyr i godi arsylwadau, meddwl am beth fydd rownd y cornel nesaf, gyrru i’r cyflymder sy’n addas ar gyfer y peryglon, wedyn o leiaf fe fyddwn yn cael effaith bositif ar geisio lleihau gwrthdaro â modurwyr eraill. Dwi hefyd yn dweud, heb oedi, y bydd gyrwyr cerbydau yn cael eu trin yr un fath os nad ydynt yn dilyn rheolau’r ffyrdd.”
Gan ddefnyddio’r is-bennawd Ei di adra heno bydd bagiau – sy’n cynnwys pamffled sy’n hyrwyddo hyfforddiant pellach, buff/snood a chylch allweddi yn cael eu dosbarthu fel rhan o’r ymgyrch. Mae llewys cwpanau coffi sydd hefo cod QR sy’n mynd at dudalen Ymgyrch Darwen ar gwefan Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu dosbarthu o amgylch caffis poblogaidd, a drwy gydweithio hefo awdurdodau lleol a’r Parc Cenedlaethol, bydd arwyddion, sy’n amlygu neges yr ymgyrch yn cael eu dosbarthu mewn mannau allweddol.
Mae modurwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o feicwyr modur yn ystod eu siwrne ac i sicrhau eu bod yn caniatáu digon o le pan yn dilyn beicwyr. Mae gyrwyr hefyd yn cael eu hannog i chwilio am feicwyr wrth dynnu allan o gyffordd.
Mae beicwyr hefo rhan allweddol er mwyn sicrhau eu diogelwch drwy yrru ar y cyflymder sy’n addas ar gyfer y ffordd, edrych ar amodau ffyrdd a thraffig, gwisgo dillad llachar a gwisgo helmed diogelwch a’r dillad cywir.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog beicwyr modur i sicrhau fod eu beiciau yn barod am y misoedd nesaf – gan edrych ar deiars a breciau.
Anogir beicwyr modur i gymryd mantais o’r gweithdai Beicio Diogel sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn. Gallwch archebu drwy www.bikesafe.co.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch