Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Porth Lles ar-lein Wrecsam yn cipio gwobr genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Porth Lles ar-lein Wrecsam yn cipio gwobr genedlaethol
Y cyngor

Porth Lles ar-lein Wrecsam yn cipio gwobr genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: 2024/03/19 at 4:04 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Parents
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi curo cystadleuaeth frwd o bob rhan o’r DU i ennill gwobr genedlaethol am ei wasanaethau digidol.

Cafodd y Porth Lles a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n galluogi pobl i adrodd am faterion iechyd a gofal cymdeithasol yn hawdd, ei enwi’n enillydd y categori Cyflawniad Digidol yng Ngwobrau Sector Cyhoeddus Granicus UK.

Gweithiodd tîm Gwasanaethau Digidol y cyngor yn agos ag adrannau Gofal Cymdeithasol Plant, Tai a Chyllid – yn ogystal â grwpiau gwirfoddol a chymunedol – i lansio’r porth yr hydref diwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Nid oedd llawer o bobl a oedd yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd, ariannol neu dai, neu’n cael trafferth rheoli bywyd teuluol, yn gwybod ble i gael cymorth.

“Doedden nhw ddim yn gwybod ble i droi ac yn aml roedd yn rhaid iddyn nhw fynd at lawer o sefydliadau, adrodd eu stori sawl gwaith, a mynd ar ôl yr help yr oedd dirfawr ei angen arnynt yn barhaus.

“Felly fe wnaethom ddatblygu’r Porth Lles ar-lein – man lle gall plant, pobl ifanc a theuluoedd gael gwybodaeth neu adrodd am broblemau, heb orfod llenwi llawer o ffurflenni gyda llawer o wahanol asiantaethau.

“Mae’r porth yn enghraifft wych o sut rydym yn datblygu gwasanaethau ar-lein i wneud bywyd yn haws i bobl yn Wrecsam, a gweithiodd tîm y Gwasanaethau Digidol yn hynod galed ar y prosiect hwn. Mae derbyn y wobr hon yn gydnabyddiaeth wych!”

Sut mae’r porth yn gweithio

Lansiwyd y porth ar ôl ymgynghori’n helaeth â gweithwyr proffesiynol a theuluoedd, ac mae’n borth i gymorth ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • Bywyd teuluol
  • Pobl ifanc
  • Plant ag anableddau
  • Budd-daliadau a dyled
  • Tai a thenantiaethau
  • Datblygiad plant
  • Lles meddyliol
  • Diogelu plant

Esboniodd Rob Griffiths, Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Digidol: “Pan fydd pobl yn mynd i’r porth, dim ond unwaith y mae’n rhaid iddyn nhw lenwi eu gwybodaeth ar un ffurflen.

“Yna mae eu cais am gymorth yn cael ei frysbennu a’i drosglwyddo i’r asiantaeth berthnasol – boed hynny’n ofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, tai, grwpiau cymorth cymunedol neu rywun arall.

“Mae darparu un pwynt cyswllt yn helpu cwsmeriaid i ganfod eu ffordd trwy’r byd atgyfeiriadau iechyd a gofal cymdeithasol sydd weithiau’n ddryslyd, a hyd yn hyn mae dros 60 o deuluoedd wedi defnyddio’r porth i ofyn am gymorth a dechrau eu taith i ddod yn ôl ar eu traed gyda’r cymorth sydd ei angen arnynt.”

Ewch i’r Porth Lles i gael gwybod mwy neu i ofyn am gymorth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024! Bydd y Ffair Fwyd yn dychwelyd i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ym mis Mawrth 2024!
Erthygl nesaf Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English