Mae gan Openreach broblemau yn ardaloedd cod post LL11, LL12, LL13 ac LL14, sydd yn effeithio ar ffonau, Wi-Fi a rhyngrwyd yn benodol.
Fe allai’r broblem effeithio ar bobl ddiamddiffyn ar draws y fwrdeistref, ac fe allai effeithio ar dechnoleg teleofal a chynorthwyol pobl. Os oes gennych chi aelodau teulu, cymdogion neu gyfeillion diamddiffyn, byddai’n syniad i chi wirio eu bod nhw’n iawn rhag ofn bod ganddynt unrhyw broblemau.
Dywedodd llefarydd ar ran Openreach: “Yr ydym yn siomedig iawn o orfod eich hysbysu bod ein seilwaith sy’n gwasanaethu eiddo yn ardal Southsea a Choedpoeth, Wrecsam, wedi ei dargedu gan droseddwyr unwaith eto.
“Mae ein peirianwyr wedi bod yn gweithio’n galed i atgyweirio’r seilwaith sydd wedi ei ddifrodi. Y mae tua 5km o gebl copr tanddaearol wedi ei ddwyn ar wahanol achlysuron.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, ac rydym wedi gosod mesurau diogelwch uwch yn yr ardal.
“Yn amlwg, mae dwyn cebl yn fater sy’n cael effaith arwyddocaol ar y gymuned ehangach, a byddem yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgaredd amheus maent yn ei weld gerllaw ein seilwaith.”