Mae unedau profi symudol yn cael eu cyflwyno’r wythnos hon i’w gwneud hi’n haws i bobl sy’n byw mewn cymunedau ar gyrion canol tref Wrecsam gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleusterau profi mynediad hawdd wedi’u lleoli yn Hightown a Pharc Caia am sawl diwrnod gan ddechrau ddydd Mercher (Gorffennaf 29).
Yn ogystal â’i gwneud yn haws cael prawf, bydd hyn yn helpu arbenigwyr iechyd cyhoeddus i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa yn Wrecsam.
Mae preswylwyr sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn cael eu hannog i gael prawf os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw symptomau … waeth pa mor ysgafn ydyn nhw.
Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam a phartneriaid eraill, gyda chefnogaeth gan y sefydliad sector gwirfoddol lleol AVOW a grwpiau cymunedol.
Yn union fel mewn rhannau eraill o’r wlad, bydd y gorsafoedd profi yn cael eu rheoli gan y fyddin.
Ei gwneud hi’n haws i bobl gael prawf
Dywed y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:
“Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu profion mynediad hawdd mewn cymunedau ar gyrion tref Wrecsam.
“Yn ogystal â’i gwneud yn haws i bobl gael prawf, bydd hefyd yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael dealltwriaeth pellach o’r sefyllfa leol.
“Bydd yr unedau profi symudol wedi’u lleoli yn Hightown a Pharc Caia dros yr ychydig ddyddiau nesaf, a gallwch fynd i’r naill orsaf brofi os ydych yn byw yn yr ardaloedd hyn neu’r cyffiniau. Mae’r broses yn gyflym ac yn hawdd.”
Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo’n sâl iawn, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu fel arfer (neu ffonio 999 os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth difrifol yn bod).
Er enghraifft, peidiwch â cheisio cerdded i ganolfan brofi os ydych chi’n cael trafferth cael eich gwynt.
Hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn, dylech gael prawf
Dywed Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Bydd darparu profion mynediad hawdd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa yn Wrecsam yn well.
“Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n credu bod ganddyn nhw symptomau – hyd yn oed rhai ysgafn iawn – i fanteisio ar yr unedau profi symudol tra maen nhw yn yr ardal, a mynd i gael prawf.
“Mae profi’n rhan bwysig iawn o’r strategaeth ar gyfer rheoli Covid-19 yng Nghymru, felly mae’n bwysig bod pobl yn camu ymlaen os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw symptomau.
“Gall Covid-19 ymledu mewn lleoliadau cymunedol, nid mewn gweithleoedd yn unig.
“Os ydych chi’n cael prawf â chanlyniad positif, byddwch chi’n cael cyngor gan swyddogion olrhain cyswllt yng Nghyngor Wrecsam.
“Byddan nhw’n eich cynghori ar ba mor hir i ynysu a pha gefnogaeth y gallwch chi ei chael i’ch helpu chi trwy’r cyfnod ynysu.
“Byddan nhw hefyd yn gofyn am eich help chi i olrhain pobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw yn ddiweddar.”
Os ydych chi’n poeni am waith
Efallai y bydd llawer o bobl yn poeni am gael prawf rhag ofn ei fod yn golygu bod yn rhaid iddynt ynysu ac na allant fynd i’r gwaith.
Dywed y Cynghorydd Hugh Jones:
“Mae angen i bobl dalu biliau a rhoi bwyd ar y bwrdd, ac mae’n ddealladwy y bydd llawer yn poeni am gael prawf positif a gorfod methu’r gwaith.
“Fodd bynnag, efallai y bydd llawer o bobl yn gallu cael cymorth ariannol a bydd y cyngor a’i bartneriaid yn helpu pobl i gael gafael ar yr wybodaeth hon.”
Gadewch i ni gadw Wrecsam yn ddiogel ac yn iach
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones:
“Os ydych chi’n credu bod gennych chi symptomau – waeth pa mor ysgafn – manteisiwch ar y profion mynediad hawdd yn Hightown a Pharc Caia yn ddiweddarach yr wythnos hon.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyngor a’n partneriaid yma i’ch cefnogi. Gadewch inni helpu i gadw Wrecsam, ein teuluoedd a’n cymunedau yn ddiogel ac yn iach.
“Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r coronafeirws wedi diflannu, ac mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae o hyd i atal ei ledaenu trwy gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a chadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, yn ogystal â golchi ein dwylo yn rheolaidd.”
Ble a phryd y gallwch chi gael prawf
Bydd y canolfannau profi symudol yng Nghanolfan Iechyd Parc Caia ar Ffordd y Tywysog Siarl, ac mewn lleoliad yn Hightown sydd eto i’w gyhoeddi, o ddydd Mercher, Gorffennaf 29.
Byddwn yn cadarnhau’r lleoliad yn Hightown cyn gynted â phosibl.
Gallwch droi i fyny rhwng 9am a 6pm o ddydd Mercher ymlaen. Mae’n ddiogel, yn syml ac yn hawdd.
Gallwch hefyd wneud cais am brawf ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch hefyd wneud cais am brawf ar-lein neu dros y ffôn
Cymerwch gip ar wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Cofiwch … os ydych chi’n teimlo’n sâl iawn, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu fel arfer (neu ffonio 999 os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth difrifol yn bod).