Nol ym mis Mawrth fe lansiwyd y Prosiect Seilwaith Gwyrdd oedd yn cynnwys plannu dôl o flodau gwyllt ym Mharc Caia.
Fe welwch o’r llun uchod pa mor llwyddiannus ydy o.
Dyma sut oedd pethau ym mis Mawrth a mis Mehefin:
A heddiw:
Dwi’n siŵr y cytunwch chi ei fod yn ddigon o sioe 🙂
Nod y Prosiect Seilwaith Gwyrdd yw gweithio gyda chymunedau i ddarparu gwelliannau amgylcheddol i fannau gwyrdd lleol ledled Wrecsam sydd o fudd i natur a phobl. Mae gwaith wedi ei wneud hefyd yn Nyfroedd Alun lle mae gwaith plannu coed wedi bod yn digwydd.
Dywedodd Jacinta Challinor, Swyddog Seilwaith Gwyrdd: “Yn ystod y cyfnod clo rydyn ni wedi gorfod gohirio nifer o weithgareddau cyffrous oedd ar y gweill ond rydyn ni’n ystyried sut gallwn ni ail gychwyn eto – mewn ffordd wahanol. Yn y cyfamser, mae’r gwaith sydd eisoes wedi digwydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ac rwy’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ymweld â’r ardal yn gwerthfawrogi’r trawsffurfiad sydd wedi digwydd yno. Mae’n edrych yn ddymunol ond mae hefyd yn helpu i wella ecoleg yr ardal ac mae bellach yn llawn pryfetach gan gynnwys pili pala sy’n ymweld â’r safle.”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld ffrwyth llafur y prosiectau yma a bydd ymwelwyr â’r ardal yn eu croesawu ac yn cael budd o’r amgylchedd gwell, a chael cysur o wybod hefyd fod bywyd gwyllt anifeiliaid a phryfed yn ffynnu a magu yma. Da iawn bawb fu’n rhan o’r gwaith a phob lwc i’r dyfodol.”
I glywed mwy am y gwaith sy’n digwydd drwy’r prosiect hwn a gwirfoddoli, ewch i dudalen Facebook ac Instagram y Prosiect Seilwaith Gwyrdd a gadael neges neu cysylltwch â Jacinta.challinor@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN