Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prosiect Seilwaith Gwyrdd yn blodeuo :)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Prosiect Seilwaith Gwyrdd yn blodeuo :)
Y cyngor

Prosiect Seilwaith Gwyrdd yn blodeuo :)

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 21, 2020 12:24 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Green Infrastructure
RHANNU

Nol ym mis Mawrth fe lansiwyd y Prosiect Seilwaith Gwyrdd oedd yn cynnwys plannu dôl o flodau gwyllt ym Mharc Caia.

Fe welwch o’r llun uchod pa mor llwyddiannus ydy o.

Dyma sut oedd pethau ym mis Mawrth a mis Mehefin:

Green
Green Infrastructure

A heddiw:

Green Infrastructure

Dwi’n siŵr y cytunwch chi ei fod yn ddigon o sioe 🙂

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Nod y Prosiect Seilwaith Gwyrdd yw gweithio gyda chymunedau i ddarparu gwelliannau amgylcheddol i fannau gwyrdd lleol ledled Wrecsam sydd o fudd i natur a phobl. Mae gwaith wedi ei wneud hefyd yn Nyfroedd Alun lle mae gwaith plannu coed wedi bod yn digwydd.

Dywedodd Jacinta Challinor, Swyddog Seilwaith Gwyrdd: “Yn ystod y cyfnod clo rydyn ni wedi gorfod gohirio nifer o weithgareddau cyffrous oedd ar y gweill ond rydyn ni’n ystyried sut gallwn ni ail gychwyn eto – mewn ffordd wahanol. Yn y cyfamser, mae’r gwaith sydd eisoes wedi digwydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ac rwy’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ymweld â’r ardal yn gwerthfawrogi’r trawsffurfiad sydd wedi digwydd yno. Mae’n edrych yn ddymunol ond mae hefyd yn helpu i wella ecoleg yr ardal ac mae bellach yn llawn pryfetach gan gynnwys pili pala sy’n ymweld â’r safle.”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld ffrwyth llafur y prosiectau yma a bydd ymwelwyr â’r ardal yn eu croesawu ac yn cael budd o’r amgylchedd gwell, a chael cysur o wybod hefyd fod bywyd gwyllt anifeiliaid a phryfed yn ffynnu a magu yma. Da iawn bawb fu’n rhan o’r gwaith a phob lwc i’r dyfodol.”

I glywed mwy am y gwaith sy’n digwydd drwy’r prosiect hwn a gwirfoddoli, ewch i dudalen Facebook ac Instagram y Prosiect Seilwaith Gwyrdd a gadael neges neu cysylltwch â Jacinta.challinor@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Library Books Job Vacancy Newyddion gwych….5 Llyfrgell bellach yn gweithredu “Archebu a Chasglu”
Erthygl nesaf play day Peidiwch â cholli ein Diwrnod Chwarae dros y we ddydd Mercher, 5 Awst!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English