Erthygl gwadd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau
Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2018, mae’n bryd dechrau paratoi eich busnes ar gyfer y 12 mis nesaf.
Os hoffech barhau’n gystadleuol neu ddatblygu ymhellach yn 2019, un o’r ffyrdd gorau i wneud hynny yw edrych ar sut gallwch wneud y mwyaf o dueddiadau a ragwelir.
Gallwch fod ar y blaen o’ch cystadleuwyr, cyrraedd eich cwsmeriaid mewn ffyrdd newydd a chyffrous a thyfu eich busnes.
Dyma 5 tuedd digidol y rhagwelir y byddant yn ffurfio 2019…
1. Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwy integredig gyda gwasanaethau eraill
Bydd yn dod yn fwy cyffredin i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol rannu data ar draws apiau trydydd parti i helpu creu profiad mwy di-dor i’r cwsmer.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Bydd hyn yn parhau i hybu trechedd cyfryngau cymdeithasol i ddefnyddwyr, wrth amlygu ffyrdd i ddarparu gwasanaeth gwell hefyd. Os nad ydych chi wedi cymryd rheolaeth dros eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol eto, dyma’r amser!
2. Bydd poblogrwydd fideos yn cynyddu
Bydd fideos byw a thrawiadol yn parhau i ddominyddu’r gofod ar-lein. Yn ôl ymchwil gan Cisco, bydd traffig fideo yn cyfrif am 82% o holl draffig rhyngrwyd defnyddwyr erbyn 2021, a bydd fideos byw ar y rhyngrwyd yn cyfrif am 13% o’r holl draffig fideo ar y rhyngrwyd.
Os ydych chi’n newydd i ddefnyddio fideo i farchnata eich busnes, gallwch ddechrau trwy ddefnyddio swyddogaeth fyw Facebook ac Instagram i rannu diweddariadau â’ch cynulleidfa. Pan fyddwch chi’n hyderus â’r fformat, gallwch ddechrau arbrofi!
3. Bydd ‘Chatbots’ yn dod yn arferol
Gallaf glywed yr ocheneidiau’n barod! Mae’n wir – rydym ni gyd fwy na thebyg wedi cael profiad negyddol neu gythruddol gyda ‘chatbot’ ond, wrth i dechnoleg ddatblygu, mae camau wedi cael eu cymryd i brosesu teimlad ac iaith naturiol yn well.
Yn ôl Spiceworks, bydd 40% o fusnesau mawr wedi gweithredu cynorthwywyr deallus, neu ‘chatbots’, erbyn 2019.
Gallai’r ffordd awtomatig o ymdrin ag ymholiadau neu geisiadau gan gwsmeriaid ymdreiddio i fusnesau bach a chanolig cyn bo hir.
Mae hyn yn newyddion gwych, gan fod yr amser a’r ymdrech i fynd i’r afael â cheisiadau, yn cael ei drosglwyddo i brosesau awtomatig, sy’n rhyddhau amser i chi ganolbwyntio ar y busnes.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gweithredu eich ‘chatbot’ eich hun, mae gwerth ystyried sut bydd normaleiddio’r offer hyn yn newid gwasanaeth cwsmeriaid – ac, yn arbennig, cyflymder a lefel y cymorth cwsmeriaid y bydd eich cynulleidfa yn ei ddisgwyl.
4. Bydd twf parhaus yn y nifer sy’n mabwysiadu’r cwmwl
Mae’r cwmwl yn barhaus i ddatblygu wrth i fwyfwy o bobl ei ddefnyddio, am amrywiaeth o resymau.
Mae Forbes yn awgrymu y bydd ‘amlgwmwl (multicloud)’ yn air allweddol newydd yn y ‘sgwrs am gwmwl’ wrth i fusnesau ddewis y mathau gwahanol o gwmwl i’w ddefnyddio, neu ar gyfer prosesau busnes neu TG penodol.
Ni waeth sut na pham rydych chi’n defnyddio’r cwmwl, bydd y ffocws ar wneud yn siŵr bod eich holl systemau gwahanol yn ddiogel, yn gweithio’n ddi-dor, ac y gellir eu symleiddio.
Mae hyn yn wych i fusnesau llai, gan ei fod yn golygu llai o bwysau i deimlo’r angen i symud eich holl fusnes i’r cwmwl ac, yn lle hynny, gallwch gymryd camau llai.
Dechrau symud elfennau gwahanol i’r cwmwl, wrth ystyried sut gallwch integreiddio’r prosesau newydd hyn i mewn i’ch rhai presennol.
5. Bydd data yn bwysicaf nag erioed
Mae data wedi bod yn bwnc trafod allweddol yn ystod 2018, yn enwedig o ran GDPR. Ond, ni fydd hyn yn tawelu yn 2019. Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich busnes, mae’n debygol y bydd gennych chi lawer o ddata – ond pa mor effeithiol ydych chi o ran ei ddefnyddio?
I barhau’n gystadleuol yn 2019, bydd angen i fusnesau ddod o hyd i ffyrdd ystyrlon i ddefnyddio data y maent yn ei gasglu i hybu twf.
Mae Forbes yn awgrymu y bydd busnesau mawr yn buddsoddi mewn dysgu peiriannau i brosesu a deall eu data – ond gall busnesau bach a chanolig ddechrau gwneud hyn nawr.
P’un ai a yw’n system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, Google Analytics neu’n edrych ar eich dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol, mae ffyrdd syml y gallwch chi ddefnyddio’r data hwnnw yn eich dwylo i ffurfio a thyfu eich busnes yn 2019.
Ydych chi wedi dechrau cynllunio ar gyfer 2019?
Darganfyddwch sut gall Cyflymu Cymru i Fusnesau eich helpu i dyfu eich busnes trwy gofrestru ar gyfer y cymorth un i un rhad ac am ddim nawr. Byddwch chi’n derbyn cynllun gweithredu digidol teilwredig i arwain eich camau nesaf.
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth busnes am ddim sy’n helpu busnesau bach a chanolig cymwys yng Nghymru i fanteisio ar dechnoleg ar-lein.
COFRESTRWCH RŴAN