Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pwy sydd wedi helpu i arestio dros 30,000?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pwy sydd wedi helpu i arestio dros 30,000?
Pobl a lleY cyngor

Pwy sydd wedi helpu i arestio dros 30,000?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2018 11:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Pwy sydd wedi helpu i arestio dros 30,000?
RHANNU

Yn syfrdanol, mae ein tîm TCC yng Nghyngor Wrecsam wedi helpu’r heddlu i wneud 30,000 o arestiadau.

Cynnwys
  •  “Ein helpu i wneud ein gwaith”
  • Helpu sicrhau gostyngiad o 56% mewn troseddu
  • Eisiau gwybod mwy?

Mae’r tîm wedi llwyddo i sicrhau’r ffigwr trawiadol hwn drwy weithredu a monitro dros 80 o gamerâu wedi eu gosod o amgylch Wrecsam.

 “Ein helpu i wneud ein gwaith”

Dywedodd yr Arolygydd Paul Wycherley, Heddlu Gogledd Cymru, “Mae TCC Wrecsam yn ein helpu i wneud ein gwaith bob dydd. Rydym yn cael y ffrydiau byw ar ein cyfrifiaduron pen desg, rydym bob amser wedi ein cysylltu ac mae gennym ddau swyddog penodol ar gyfer canol y dref a phedwar Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sydd i gyd wedi eu cysylltu â’r system TCC. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, mae TCC wedi ein helpu i ddod o hyd i bobl sydd ar goll, pobl sy’n yfed a gyrru ac i arestio unigolion ar ôl digwyddiad mawr o anhrefn cyhoeddus ar y Stryt Fawr. Safon y staff yn yr ystafell reoli TCC sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn gan eu bod yn bobl o’r radd flaenaf sydd â’r cyfarpar angenrheidiol ac wedi eu hyfforddi’n dda.”

Dau ddyn wedi eu harestio am ladrad yng nghanol dref Wrecsam ar ôl ddychwelyd i leoliad y trosedd. Mae hyn yn dangos y bartneriaeth rhwng HGC, Crimelink a TCC yn Wrecsam yn gweithio’n dda – #phartneriaeth fyw. #Wrecsam

— TCC Wrecsam CCTV (@WcmTCCWxmCCTV) June 19, 2018

 

Helpu sicrhau gostyngiad o 56% mewn troseddu

Ers i’r tîm gael ei sefydlu ym 1996, maent wedi helpu i wneud 30,000 o arestiadau. Ac, yn ogystal â helpu wrth wneud yr arestiadau hyn, ers cyflwyno TCC yng nghanol y dref ynghyd â datblygu’r tîm heddlu canol y dref, cafwyd gostyngiad o dros 56% mewn troseddau yn ystod y flwyddyn gyntaf y gweithredwyd y cynllun. Arweiniodd hyn at wobr genedlaethol i’r tîm ym 1998.

Mae’r bartneriaeth wedi mynd o nerth i nerth gyda’r tîm TCC yn gweithio mewn partneriaeth gyda swyddogion lleol yr heddlu i helpu monitro digwyddiadau mawr, fel gig ddiweddar y Stereophonics, gemau pêl-droed yn ogystal ag economi gyda’r nos y dref.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn ffodus i gael tîm TCC penodol o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Maent yn ganolog i helpu sefydliadau sy’n bartneriaid â ni i wneud arestiadau a chadw strydoedd Wrecsam yn ddiogel. Mae TCC a’r tîm ymateb i ddigwyddiadau yn gweithio law yn llaw ac wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth atal troseddau yn y fwrdeistref sirol.”

Gal TCC helpu lleihau ofn troseddau yn ogystal â gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.  Maent hefyd yn ffynhonnell wych o wybodaeth fyw. Gallwch ddilyn eu cyfrif twitter (@TCCWcmCCTVWxm) i gael diweddariadau traffig a gwybodaeth am ddigwyddiadau mawr, diogelwch y cyhoedd ac atal troseddu.

Gwych i weld pobl allan o gwmpas ac yn mwynhau'r haul yn ystod y Farchnad dydd Llun.

Nice to see people out and about enjoying the Monday Market in the Sunshine. @cbswrecsam @wrexhamcbc @wrexham pic.twitter.com/a2cTBjyEbR

— TCC Wrecsam CCTV (@WcmTCCWxmCCTV) June 25, 2018

Mae’r tîm, sy’n cynnwys 7 o staff, hefyd yn monitro larymau yn holl adeiladau’r cyngor ac yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Eisiau gwybod mwy?

Edrychwr ar y cwestiynau cyffredin

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth sydd â 364 o olwynion ac sy’n edrych ar ôl tai cyngor? Beth sydd â 364 o olwynion ac sy’n edrych ar ôl tai cyngor?
Erthygl nesaf Awyddus i fod yn ffit? Darganfyddwch beth sy’n gweithio i chi yn gyntaf Awyddus i fod yn ffit? Darganfyddwch beth sy’n gweithio i chi yn gyntaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English