Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y diweddaraf am y llifogydd – gwaith adfer yn mynd rhagddo ar draws y fwrdeistref sirol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y diweddaraf am y llifogydd – gwaith adfer yn mynd rhagddo ar draws y fwrdeistref sirol
ArallY cyngor

Y diweddaraf am y llifogydd – gwaith adfer yn mynd rhagddo ar draws y fwrdeistref sirol

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 27, 2021 2:31 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Road clean up
RHANNU

Mae gwaith adfer yn mynd rhagddo ar draws Wrecsam, wrth i’r fwrdeistref sirol geisio gael ei draed dano ar ôl y llifogydd diweddar.

Cynnwys
  • Helpu cymunedau i gael eu traed danynt
  • Sut i gael cymorth os effeithiwyd arnoch chi
  • Cyngor iechyd os ydych chi’n glanhau eich eiddo ar ôl llifogydd
  • Y diweddaraf am y ffyrdd

Crëwyd problemau mewn sawl ardal yn sgil glaw llifeiriol a lefelau afon digynsail, yn cynnwys cau ffyrdd, llifogydd mewn tai a bu rhaid i rai preswylwyr orfod symud o’u cartrefi.

Cyhoeddwyd argyfwng (digwyddiad difrifol a mawr) ym Mangor-is-y-Coed, a Dyffryn Dyfrdwy Isaf (gan effeithio ar eiddo yn ardal Holt), yn ogystal â phroblemau mewn mannau problemus yn cynnwys New Broughton, Yr Orsedd, Pontfadog a Brymbo, ymysg nifer o ddigwyddiadau ynysig eraill.

Helpu cymunedau i gael eu traed danynt

Mae timau’r Cyngor ac asiantaethau partner allan yn delio â chanlyniadau’r llifogydd.

Mae hyn yn cynnwys dadflocio ffyrdd, cafnau a draeniau sydd wedi’u heffeithio gan storm Christoph, gwneud gwaith trwsio yng nghartrefi tenantiaid y Cyngor sydd wedi cael eu heffeithio, a darparu cyngor i berchnogion cartrefi preifat.

Mae hefyd yn cynnwys ailgychwyn ein gwasanaethau eto yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio – er enghraifft symud gwastraff a chasglu biniau.

Y nod yw helpu’r gymuned i gael ei thraed dani cyn gynted â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael a byddwn yn parhau i weithio ag asiantaethau partner amrywiol yr wythnos hon.

Sut i gael cymorth os effeithiwyd arnoch chi

Gallwch ddefnyddio wrecsam.gov.uk i adrodd unrhyw broblemau llifogydd neu ddŵr wyneb parhaus nad ydym ni’n ymwybodol ohonynt.

Os ydyw’n argyfwng, ffoniwch 01978 298989 (neu 01978 292055 y tu allan i oriau swyddfa).

Gallwch ddefnyddio wrecsam.gov.uk i ofyn am gymorth os ydych chi’n denant tŷ Cyngor ac os effeithiwyd ar eich eiddo (er mwyn i ni wneud gwaith atgyweirio i’ch cartref a sicrhau ei fod yn ddiogel).

Ffoniwch 01978 298993 os yw’n argyfwng.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref a bod dŵr wedi dod mewn i’r tŷ, dylech siarad â’ch yswiriwr cyn gyned â phosibl.

Fel rheol fe fyddant yn cadarnhau pa waith atgyweirio sydd ei angen a beth y bydd eich polisi yswiriant yn talu amdano.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grantiau rhwng £500 a £1,000 i aelwydydd sydd wedi’u taro gan lifogydd. Pan fydd rhagor o fanylion ar gael, byddwn yn eu rhannu gyda chi.

Gallwch hefyd gysylltu â ni os ydych chi angen cymorth wrth ddod o hyd i rywle i fyw (er enghraifft, os nad oes modd i chi fyw yn eich cartref bellach). Ffoniwch 01978 292947.

Cyngor iechyd os ydych chi’n glanhau eich eiddo ar ôl llifogydd

Mae hi’n bwysig aros yn ddiogel os ydych chi’n glanhau ar ôl llifogydd yn eich cartref.

Mae cyngor ar gael ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae hyn yn cynnwys aros allan o ddŵr llifogydd, a golchi eich dwylo ar ôl dod i gyswllt â dŵr llifogydd neu unrhyw eitem sydd wedi bod yn y dŵr.

Cofiwch – gall llifogydd greu peryglon amrywiol yn y cartref.

Er enghraifft, os nad ydi’ch cyflenwad trydan wedi’i ddiffodd yn y prif gyflenwad, dylech gael trydanwr cymwys i wneud hyn (PEIDIWCH Â CHYFFWRDD ffynonellau trydan wrth sefyll yn y dŵr llifogydd.

Y diweddaraf am y ffyrdd

Mae’r ffordd ymuno a’r bont mewn i Fangor-is-y-Coed dal ynghau ar hyn o bryd, yn ogystal â’r Filltir Syth y tu allan i’r pentref.

Mae pob ffordd fynediad arall i mewn i Fangor-is-y-Coed bellach ar agor.

Mae’r bont rhwng Holt a Farndon bellach ar agor, ac mae pob llwybr mynediad mewn i Holt ar agor.

Mae Ffordd Fferi Almere yn Yr Orsedd dal ynghau.

Rhannu
Erthygl flaenorol Amser ychwanegol! Dyddiad cau wedi’i ymestyn ar gyfer ceisiadau rheolwr prosiect yn amgueddfa bêl-droed gyntaf Cymru Amser ychwanegol! Dyddiad cau wedi’i ymestyn ar gyfer ceisiadau rheolwr prosiect yn amgueddfa bêl-droed gyntaf Cymru
Erthygl nesaf Shopping in Wrexham Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English