Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint
Y cyngorPobl a lle

Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2023 3:42 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Nottingham Door Knockers
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn dymuno rhybuddio pobl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham, a elwir hefyd yn ‘werthwyr cadachau’.

Bechgyn ifanc ydyn nhw fel arfer, yn dod at eich drws gyda bag mawr du yn llawn cynnyrch glanhau sy’n amrywio o dyweli te, cadachau llestri, cadachau, chwistrellwyr, polish, eitemau bychan o ddillad a hyd yn oed cyllyll. 

Fodd bynnag, nid yn unig y maen nhw’n ceisio gwerthu eitemau o ansawdd gwael i chi am brisiau chwyddedig iawn, ond maen nhw hefyd yn chwilio am dargedau hawdd ac yn gwerthu manylion i fyrgleriaid proffesiynol. Mae nifer o bobl sydd wedi prynu eitemau gan gnocwyr Nottingham wedi dioddef byrgleriaeth yn eu cartrefi yn fuan wedyn.

Yn wreiddiol o ardal Nottingham, byddai’r grŵp hwn yn dod i ‘gnocio’ ar ddrysau pobl i werthu, a dyna lle ddaw’r term cnocwyr Nottingham. 

Bydd Cnocwyr Nottingham yn cyfaddef eu bod yn gyn-droseddwyr

Bu adroddiadau diweddar ohonynt ar draws ardal Wrecsam a Sir y Fflint ac mewn rhai sefyllfaoedd maent wedi bod yn ymosodol, sydd wedi dychryn ac achosi gofid i berchnogion tai.  Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i edrych drwy’r ffenestr gyntaf a pheidio agor y drws i unrhyw un nad ydych yn siŵr ohonynt. 

Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi lansio Operation REPEAT, menter atal trosedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru. Nod Operation REPEAT yw diogelu perchnogion tai diamddiffyn rhag unrhyw fath o dwyll a chamdriniaeth ariannol, fel y gallant barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi.

Mae’r tîm y tu ôl i Operation REPEAT wedi bod yn ganolog i ddelio gyda chnocwyr Nottingham ers blynyddoedd.   Maent yn dweud bod y dynion hyn yn teithio i ardal mewn faniau neu fysus mini ac yn gweithio mewn timau ar draws cymdogaeth fel arfer.

Nottingham knockers
Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint
Nottingham Knockers

Byddan nhw’n cyfaddef eu bod nhw’n gyn-droseddwyr sy’n ceisio dechrau o’r newydd ac efallai’n dangos cerdyn o’u cynllun prawf, yn ôl y sôn. Nid oes gan y cardiau adnabod hyn unrhyw draul gyfreithiol.  Mae’r dynion ifanc yn delio gydag arian parod ar garreg drws. Os byddwch chi’n prynu ganddyn nhw unwaith byddant yn dychwelyd eto i geisio gwerthu mwy i chi.

Mewn ardaloedd eraill, maent hyd yn oed wedi bod yn dreisiol ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael mwy o arian parod. Ni adroddwyd ar hyn yn ardal Wrecsam a Sir y Fflint hyd yma, ond mae’r dynion wedi bod yn ymosodol. Eto, cofiwch fod y gwerthwyr hyn yn droseddwyr proffesiynol a’r ffordd orau i gadw’n ddiogel yw peidio ymwneud â nhw.

Os bydd cnocwyr Nottingham yn ymweld â chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru gynted ag y gallwch drwy ffonio 101 i roi’r cyfle gorau i’r heddlu ddod i’ch ardal a dal yr unigolion.   Ceisiwch gofnodi unrhyw fanylion, gan gynnwys rhif cofrestru cerbyd.

Fodd bynnag, os byddant yn eich bygwth neu’n eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, deialwch 999 ar gyfer ymateb i argyfwng.

Os byddwch yn bryderus bod cnocwyr Nottingham wedi cysylltu â chi gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.

 Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Rhannu
Erthygl flaenorol HMRC CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 
Erthygl nesaf OPCC Summer Soccer Fund Graphic Y CHTh a Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn dechrau haf o chwaraeon yng Ngogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English