Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y CHTh a Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn dechrau haf o chwaraeon yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y CHTh a Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn dechrau haf o chwaraeon yng Ngogledd Cymru
Pobl a lle

Y CHTh a Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn dechrau haf o chwaraeon yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 11:20 am
Rhannu
Darllen 4 funud
OPCC Summer Soccer Fund Graphic
RHANNU

ERTHYGL GWADD

Gyda gwyliau’r haf yn dynesu, mae clybiau a sefydliadau ieuenctid ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyllid er mwyn cynnal gweithgareddau gan Gronfa Bêl Droed yr Haf arbennig Andy Dunbobbin sef y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh). Mae’r gronfa’n dechrau heddiw mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru. 

O ystyried fod Cymru wedi mynd i Gwpan y Byd llynedd, cefnogaeth ragorol y Wal Goch, llwyddiant CCPD Wrecsam a Chwpan y Byd i Ferched sydd ar y gweill, nid oes amser gwell er mwyn dathlu ‘Y Gêm Hardd’ yng Ngogledd Cymru. Gobeithir y bydd cefnogaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru i’r ymgyrch yn hanfodol wrth annog sefydliadau ddod ymlaen a gwneud y mwyaf o’r cyllid ar gael gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’i swyddfa.

Mae Cronfa Bêl Droed yr Haf wedi’i chreu er mwyn trechu problemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all weld cynnydd dros fisoedd yr haf. Y nod ydy bydd y cyllid yn cyfrannu at weithgareddau pêl droed a chwaraeon er mwyn cadw plant a phobl ifanc yn brysur mewn ffordd gadarnhaol, wrth hefyd hyrwyddo gwaith tîm, ymarfer ac yn awyrgylch hwyliog a chynhwysol i bawb. 

Mae’r arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer chwaraeon dros yr haf yn agwedd arall o fenter Arloesi i Dyfu’r CHTh. Cafodd y fenter ei lansio llynedd ac mae’n cydnabod a chynorthwyo ariannu mentrau arloesol sy’n ymdrin ag achosion trosedd ledled y rhanbarth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwyf yn gyffrous iawn dechrau fy Nghronfa Bêl Droed yr Haf. Rwyf yn credu bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc Gogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf.  Mae chwaraeon yn ffordd wych o greu gweithgareddau tynnu sylw cadarnhaol i’n plant, gan adael iddynt fynegi eu hunain mewn ffordd hwyliog a chadarnhaol, wrth dreulio amser gyda’u ffrindiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch arall llai cadarnhaol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae’r cynllun hwn yn ffordd bellach o gyflawni cymdogaethau mwy diogel i bawb, sy’n gonglfaen Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Rwyf yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Cymdeithas Bel Droed Cymru i’r cynllun hwn. Rwyf yn gobeithio bydd yn llwyddiant mawr. Buaswn yn annog unrhyw glwb neu gymuned sy’n meddwl eu bod yn gymwys am gyllid i ymgeisio rŵan a chreu haf o bêl droed drwy Ogledd Cymru!”

Dywedodd Helen Antoniazzi o Gymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae clybiau pêl droed wrth galon cymunedau ledled gogledd Cymru. Mae Cronfa Bêl Droed yr Haf y CHTh yn rhoi cyfle gwych i’r clybiau hyn ymgysylltu plant a phobl ifanc o’u hardaloedd lleol mewn gweithgareddau hwyliog a fydd o fudd i’w lles corfforol a meddyliol wrth hefyd ddatblygu eu sgiliau. Hoffem weld clybiau yn bachu ar y cyfle hwn ac ymgeisio am y cyllid fel y gall cymaint o gymunedau â phosibl elwa yn ystod gwyliau’r haf.”

Mae ceisiadau ar agor ar unwaith a gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yng Nghronfa Bêl Droed yr Haf wybod sut i ymgeisio yn adran Arloesi i Dyfu gwefan SCHTh yma: www.northwales-pcc.gov.uk/cy/arloesi-i-dyfu

TAGGED:wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Nottingham Door Knockers Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint
Erthygl nesaf Wales in Bloom Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cymru yn ei Blodau 2023

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English