Rhoddwyd sêl bendith ar nifer o gynlluniau i gadw pobl yn ddiogel yn sgil cyhoeddi dyfarniad bron i hanner miliwn o bunnau o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel.
Gyda’r arian bydd modd i’r ganolfan yn Hafan y Dref fod ar agor ar nos Wener i ddarparu gofal a chymorth cyntaf i bobl sy’n mwynhau’r economi liw nos. P’un a ydych chi’n colli’ch ffrindiau, bod dim batri yn eich ffôn neu’ch bod wedi meddwi gormod i wneud eich ffordd adref, mae Hafan y Dref yn rhywle ichi gadw’n ddiogel.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd grantiau hefyd ar gael i ysgolion a chymunedau ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc.
Bydd pedwar o swyddogion yn gweithio ar y stryd yn yr economi liw nos am flwyddyn i gynorthwyo’r heddlu a swyddogion cymunedol yr heddlu i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl a’u cyfeirio at fannau diogel fel Hafan y Dref.
Bydd gan yr heddlu stondin yn Nôl yr Eryrod a chynhelir nifer o ddiwrnodau Parch ar Strydoedd Mwy Diogel i helpu i dargedu a chodi ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn menywod a genethod.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn cydweithio â cholegau chweched dosbarth, Phrifysgol Glyndŵr a’r cyhoedd yn gyffredinol wrth helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfeirio pobl at leoedd i gael cefnogaeth mewn achosion o gam-drin domestig.
Meddai Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wrth iddo gydnabod y gwaith sy’n digwydd yn Wrecsam.
“Bydd y cyllid ychwanegol yn hwb i’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb a bod cymorth a chyngor bob amser ar gael i bwy bynnag sydd ei angen.”
Roedd y cyllid yn rhan o gais gan y Comisiynydd, Andy Dunbobbin, i’r Swyddfa Gartref am £1.5 miliwn i ogledd Cymru.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH