Ym mis Hydref, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu ein gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer plant anabl a phlant sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd neu wedi derbyn gofal yn y gorffennol.
Os ydych yn derbyn y gwasanaethau hyn neu’n rhiant/gofalwr i blentyn anabl, maent yn awyddus i glywed am eich profiadau â’r gwasanaethau cymdeithasol neu’r gwasanaethau gofal, megis gofal plant.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Bydd yr arolwg ar agor tan 23 Hydref 2020, felly sicrhewch eich bod yn rhoi adborth iddynt cyn hynny.
Mae dau arolwg:
- Arolwg ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (dolen allanol)
- Arolwg ar gyfer rheini/gofalwyr plant anabl syn defnyddio’r gwasanaethau (dolen allanol)
Ac mae fersiwn hawdd ei ddeall o’r arolwg rhieni/gofalwyr ar gael hefyd:
Arolwg Rhieni – Ffurflen Hawdd ei Darllen (Dolen Allanol)
Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau’r arolwg o’r gwasanaethau hyn ar ein gwefan.
Gallwch ddarganfod mwy am raglen arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru yma (Dolen Allanol)
“Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau pwysig a hanfodol i bobl ar draws Wrecsam”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae llawer o ddefnyddwyr, rhieni a gofalwyr wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn ac rydym yn eu hannog i dreulio ychydig funudau yn rhannu eu barn.”
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau pwysig ac hanfodol i bobl o bob oedran ar draws Wrecsam, ac rwy’n falch eu bod yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG