Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi gwybod i Crimestoppers am werthu cynhyrchion dan oed yn anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhoi gwybod i Crimestoppers am werthu cynhyrchion dan oed yn anghyfreithlon
Pobl a lle

Rhoi gwybod i Crimestoppers am werthu cynhyrchion dan oed yn anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: June 30, 2021 11:04 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Crimestoppers
RHANNU

Gall trigolion a busnesau ledled Cymru sy’n credu bod rhywun wedi prynu neu werthu cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran i berson dan oed hysbysu Crimestoppers yn ddienw erbyn hyn.

Mae Safonau Masnach Cymru a’r elusen Crimestoppers wedi ymuno i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi aelodau o’r cyhoedd i ddarparu gwybodaeth werthfawr yn ddienw i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Dyma’r mater diweddaraf y mae’r ddau sefydliad yn gweithio arno i annog aelodau o’r cyhoedd i drosglwyddo gwybodaeth am bryderon a allai fod ganddynt, yn gwbl ddienw.

Mae cynhyrchion cyfyngedig oed yn cynnwys:

  • Alcohol
  • Cynhyrchion tybaco gan gynnwys sigaréts, tybaco, papurau sigaréts a sigarennau
  • E-sigaréts
  • Tân gwyllt
  • Cyllyll, llafnau cyllyll, llafnau ymyl agored, bwyeill
  • Glud, aerosolau, hylifau glanhau domestig, hylifau glanhau sych, glanhawyr a theneuwyr paent.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Crimestoppers ac yn cynnig ffordd i aelodau’r cyhoedd allu rhoi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

“Mae isafswm oedran prynu’n berthnasol i’r cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran gan eu bod yn cael eu hystyried yn niweidiol i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

“Nid yn unig y mae gwerthu’r cynhyrchion hyn yn drosedd, ond maent hefyd yn niweidio lles ein plant ac yn tarfu ar gymunedau.”

Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi prynu neu werthu cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran i berson dan oed yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org a dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi’n ei wybod. Gall eich gwybodaeth helpu i gadw cymunedau ledled Cymru’n ddiogel.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnig llwybr o Ddirwasgiad Covid i Dwf Gwyrdd mewn Cynnig Pecyn Ysgogi £400 miliwn
Erthygl nesaf PCR Dylai unrhyw un gyda Symptomau Covid archebu prawf PCR

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Chirk Aqueduct
Pobl a lleDigwyddiadau

Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun

November 10, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English