Efallai y cofiwch y llynedd, gwnaethom edrych ar adolygu rhai o’n gwasanaethau Dydd ac Anabledd gyda chanolbwynt arbennig ar bedwar prosiect gwahanol: Le Cafe; Coverall; PAT; a’r caffi ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.
Mae llawer o newidiadau o’r adolygiad hwnnw wedi digwydd – er enghraifft, gwnaethom gyhoeddi yn ddiweddar bod Groundwork yn mynd i redeg y caffi yn Nyfroedd Alun
Ond gyda’r rhan honno o’r adolygiad wedi’i chwblhau, rydym nawr angen eich cyngor ac arweiniad ar ein camau nesaf a lle byddwn angen gwneud newidiadau i’r gwasanaethau a ddarperir yng Nghanolfan Cunliffe a phrosiect Gardd Erlas.
Pam bod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal?
Mae’r gyfraith ynglŷn â sut mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl wedi newid. Mae’r canolbwynt nawr ar wella lles yr unigolyn a datblygu cymunedau cryf sy’n gallu helpu i gefnogi unigolion.
Rydym eisiau sicrhau, lle mae hynny’n bosibl y gall pobl gynnal eu hannibyniaeth o fewn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Felly, bydd angen i ni ganolbwyntio ar atal yr angen am wasanaethau, gan ddatblygu mwy o gefnogaeth yn y gymuned, gan y gymuned.
Felly, er mai adolygiad o ofal cymdeithasol i oedolion yw hwn, mae’n ymwneud â phobl a chymunedau – felly mae’n bwysig i ni dderbyn adborth gan gymaint o bobl â phosibl.
Hyd yn oed os nad oes gennych berthynas neu rywun agos sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, mae’n debyg fod gennych farn ar ofal a chefnogaeth a sut y dylai pethau fod – felly mae’n bwysig eich bod yn dweud eich dweud.
I gymryd rhan yn yr adolygiad, ewch i’r dudalen ar ein safle Eich Llais.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Gyda newidiadau mewn demograffeg a phwyslais cynyddol ar yr angen i gefnogi unigolion yn eu cymunedau, rydym yn gorfod gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd nesaf.
“Ond ni allwn wneud hynny heb gyfraniad y cyhoedd, gan mai cymunedau fydd yn ffurfio rhan eithriadol bwysig o sut y darperir gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
“Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn cynghori unrhyw un â diddordeb mewn gofal i gymryd rhan yn yr adolygiad – ni fydd yn cymryd mwy na deg munud o’ch amser, ond rydym yn croesawu unrhyw gyfraniad a byddwn angen barn pobl cyn y gallwn wneud unrhyw newidiadau pendant.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN