Mae Safonau Masnach yn cynghori pawb i gadw golwg am negeseuon e-bost ffug sy’n honni eu bod gan Tesco.
Mae’r e-bost yn gofyn i chi glicio ar ddolen er mwyn ennill pethau am ddim ond, mewn gwirionedd, mae’n mynd â chi i wefan faleisus.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Action Fraud wedi derbyn bron i 200 o adroddiadau am hyn mewn wythnos.
Mae Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, yn dweud, “Mae Action Fraud wedi derbyn bron i 200 o adroddiadau am hyn mewn un wythnos yn unig, felly byddwch yn ofalus.
“Os ydych chi’n amau unrhyw e-bost, dylech ei riportio drwy ei anfon ymlaen at Report@phishing.gov.uk ac yna ei ddileu. Peidiwch byth â dilyn unrhyw ddolenni. Mi allai hynny fod yn gostus iawn.”
“Gwe-rwydo” yw’r enw ar y math hwn o dwyll ac mae’n cael ei ddefnyddio gan droseddwyr i gael pobl i ddilyn dolen sydd wedyn yn lawrlwytho feirws i’ch cyfrifiadur neu’n dwyn manylion banc neu wybodaeth bersonol arall.
Mae cyngor ar gael gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gallwch gysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH