Disgiau Llif Gadwyn ar gyfer Peiriannau Llifanu Ongl. Perygl o anaf difrifol neu farwolaeth
Byddwch yn wyliadwrus o ddisgiau llif gadwyn a gaiff eu gwerthu fel atodiadau i beiriannau llifanu ongl. Nid yw’r rhain yn gyfreithlon ac maent wedi achosi anafiadau difrifol i bobl ar draws y DU. Os bydd y disg yn cydio yn yr arwyneb torri, gallai’r peiriant llifanu neidio neu droi’n sydyn a chael ei rwygo o’ch dwylo.
Os oes gennych chi ddisg llif gadwyn fel y rhai yn y lluniau:
- Peidiwch â’i ddefnyddio.
- Dychwelwch y disg i lle bynnag y gwnaethoch chi ei brynu a gofynnwch am ad-daliad.
Dylai unrhyw fusnes sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn eu tynnu oddi ar y farchnad ar unwaith gan nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Peiriannau (Diogelwch) 2008.
Anogir aelodau o’r cyhoedd i roi gwybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth am unrhyw fusnes sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn drwy ymweld â https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/ neu ffonio 0808 223 1133.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN