Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM
ArallPobl a lle

Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM

Diweddarwyd diwethaf: 2022/05/25 at 10:54 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhybudd i gwsmeriaid credydau treth ynghylch sgamwyr sy’n ffugio eu bod yn gweithio i CThEM
RHANNU

Erthyl gwadd – CThEM

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhybuddio cwsmeriaid credydau treth i fod yn wyliadwrus o sgamiau a thwyllwyr sy’n dynwared yr adran er mwyn ceisio dwyn gwybodaeth bersonol neu arian.

Mae disgwyl i 2.1 miliwn o gwsmeriaid credydau treth adnewyddu eu hawliadau blynyddol erbyn 31 Gorffennaf 2022 ac mae’n bosibl y byddant yn fwy agored i’r tactegau a ddefnyddir gan droseddwyr sy’n dynwared negeseuon gan y llywodraeth i’w gwneud iddynt ymddangos yn ddilys.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, hyd at fis Ebrill 2022, gwnaeth CThEM ymateb i bron 277,000 o atgyfeiriadau gan y cyhoedd yn ymwneud â chyswllt amheus. Mae twyllwyr yn defnyddio galwadau ffôn, negeseuon testun ac e-byst i geisio twyllo unigolion – gan geisio’n aml eu rhuthro i wneud penderfyniadau. Ni fydd CThEM yn eich ffonio ac yn bygwth eich arestio ar unrhyw adeg – dim ond troseddwyr sy’n gwneud hynny.

Mae enghreifftiau o sgamiau cyffredin yn cynnwys:

  • galwadau ffôn sy’n bygwth eich arestio os na thalwch y dreth ffug sy’n ddyledus. Weithiau, bydd y twyllwyr yn honni bod rhif Yswiriant Gwladol rhywun wedi’i ddefnyddio mewn modd twyllodrus
  • e-byst neu negeseuon testun sy’n cynnig ad-daliadau treth ffug, grantiau ffug yn sgil COVID-19 neu sy’n honni bod taliad debyd uniongyrchol wedi methu

Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Rydym yn annog ein holl gwsmeriaid i fod yn ofalus iawn os bydd rhywun yn cysylltu’n ddirybudd gan ofyn am arian neu fanylion banc.

“Mae llawer o sgamiau ar led lle y mae twyllwyr yn ffonio, yn anfon neges destun neu’n anfon e-bost at gwsmeriaid gan honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM. Os oes gennych unrhyw amheuon, rydym yn awgrymu nad ydych yn ymateb yn uniongyrchol, a’ch bod yn cysylltu â ni ar unwaith. Chwiliwch am ‘sgamiau’ ar GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i roi gwybod am sgamiau treth.”

Nid yw CThEM yn codi tâl ar gwsmeriaid credydau treth i adnewyddu eu hawliadau blynyddol. Mae CThEM hefyd yn annog cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus o wefannau neu hysbysebion camarweiniol gyda’r nod o wneud iddynt dalu am wasanaethau gan y llywodraeth a ddylai fod yn rhad ac am ddim, ac sy’n aml yn codi tâl i gysylltu â llinellau cymorth CThEM.

Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yn rhad am ddim drwy GOV.UK neu ap CThEM ac fe’u cynghorir i chwilio ar GOV.UK i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r arweiniad cywir.

Mae adnewyddu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu hadnewyddiad, i gael sicrwydd ei fod yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM. Gall cwsmeriaid sy’n dewis defnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar wneud y canlynol:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • diweddaru newidiadau i’w hawliad
  • gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
  • cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEM i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.

Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEM am y newid. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • trefniadau byw
  • gofal plant
  • oriau gwaith, neu
  • incwm (cynnydd neu ostyngiad)

Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Gallai llawer o gwsmeriaid sy’n symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol fod ar eu hennill yn ariannol a gallant ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio hynny. Os bydd cwsmeriaid yn dewis gwneud cais yn gynt, mae’n bwysig cael cyngor annibynnol ymlaen llaw gan na fyddant yn gallu mynd yn ôl i gredydau treth nac unrhyw fudd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Stem Cells Dieithryn yn achub bywyd mam trwy roi bôn-gelloedd
Erthygl nesaf Library Car Park Cymrwch olwg ar y trefniadau parcio dros yr wythnosau nesaf wrth i ddigwyddiadau mawr ddod i Wrecsam.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

off-gas
Pobl a lle

Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English