Mae Heddlu Gogledd Cymru a Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio pobl o sgam gwe-rwydo sydd yn mynd o gwmpas ar hyn o bryd.
Mae’r twyll yn dechrau â neges destun, y tybir gan y Post Brenhinol, sy’n hysbysu pobl bod ganddynt ‘barsel’ yn barod i’w gasglu, ond bydd rhaid iddynt dalu ffi o £2.99 i wneud hynny.
Does a wnelo hyn ddim â’r Post Brenhinol, mae’n sgam llwyr!
Yna, mae dolen yn arwain yr unigolyn at wefan soffistigedig iawn yr olwg, sydd â’r cyfeiriad gwefan royal-mail.cloud.
Scammers are imitating a Royal Mail webpage – https://t.co/lpkG0XNKvw
and texting victims saying there is a parcel ready for collection, but £2.99 must be paid first. They ask fora photo and further details. Nothing to do with Royal Mail. It's a scam. pic.twitter.com/Pj5rnRflyf— North Wales Police (@NWPolice) November 12, 2019
Mae’r dudalen yn defnyddio logo swyddogol y Post Brenhinol ac yn edrych yn ddilys iawn, sy’n ei gwneud hi’n hawdd iawn i bobl gael eu twyllo.
Mae’n cynnig rhif olrhain ar gyfer ‘Danfoniad Brys y Post Brenhinol’ ac yn nodi’r gost o £2.99. Yna gofynnir i bawb sy’n clicio ar y ddolen i nodi eu manylion personol yn cynnwys enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cerdyn.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Mae llawer iawn o sgamiau gwe-rwydo yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig ac mae’r wefan hon (royal-mail.cloud) yn edrych yn broffesiynol iawn ac yn anffodus mae ganddi’r potensial i gamarwain pobl a’u twyllo.
“Mae’r mathau hyn o sgamiau’n mynd yn fwy soffistigedig o hyd, felly mae’n bwysig bod yn ofalus wrth gyflwyno unrhyw fanylion personol. Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 a fydd yn gallu eich cynghori.”
Os ydych wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, neu’n credu y gallech fod wedi dioddef hynny, siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu a rhowch wybod i Action Fraud arlein neu drwy ffonio 0300 123 2040. Mae’r Post Brenhinol hefyd yn cynghori unrhyw gwsmer i roi gwybod iddynt os yw’n derbyn e-bost amheus neu’n canfod gwefan ag enw’r Post Brenhinol sydd, ym marn y cwsmer, yn dwyllodrus.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!