Dyma sgam arall i fod yn ymwybodol ohoni. ????
Mae Action Fraud wedi derbyn bron i 300 o adroddiadau mewn un wythnos ynglŷn â negeseuon e-bost twyllodrus gan “Currys”. Mae’r negeseuon yn cynnig cyfle i ennill anrheg gwerth £250 gan Pampers.
Mae’r dolenni yn y neges yn arwain at wefan sy’n edrych yn ddilys, ond mae’r wefan wedi’i chynllunio i ddwyn gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Meddai Roger Mapleson, Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Gyda chostau byw yn cynyddu mae mwy a mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac yn cael eu temtio gan gynigion o’r fath. Byddwch yn wyliadwrus, peidiwch â dilyn unrhyw ddolen a rhowch wybod am negeseuon amheus ar unwaith drwy gysylltu â report@phishing.gov.uk. Drwy roi gwybod am negeseuon twyllodrus byddwch yn helpu i ddileu sgamiau a gwefannau maleisus.
“Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r cwmni yn defnyddio eu gwefan swyddogol.”
Am fwy o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein, ewch i www.cyberaware.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN