Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf
Y cyngorArall

Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2023 2:35 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf
RHANNU

Wrth i bobl ifanc yn eu harddegau hel eu traed am gigs, gwyliau a theithiau ysgol, mae’r Sefydliad Siartredig Safonau Masnach yn rhybuddio rhieni a phobl ifanc i fod yn wyliadwrus rhag sgamiau negeseuon testun sy’n dod yn fwyfwy cyffredin.

Cynnwys
  • Mae’r sgamiau hefyd yn rhoi pobl ifanc mewn perygl
  • Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Sgamiau

Y sgam ydi anfon neges destun gan honni i fod yn fab neu ferch y sawl sy’n ei derbyn ac yn sôn bod yr anfonwr wedi cael rhif newydd, neu bod eu ffôn wedi torri neu fynd ar goll. Mae’r Sefydliad wedi gweld enghreifftiau sy’n cynnwys y ddwy neges hon:

“Ffôn wedi torri Mam. Fedri di decstio fi ar rhif newydd 07425218812 Ffôn ffrind fi ydi hwn x.”

Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf

Haia Mam, dwi di cael contract newydd efo O2 felly dydi hen rif fi ddim yn gweithio. Anfona neges i’r ffôn newydd ar 07742844550 i fi gael dy rif di x.”

Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf

Dim ond y cam cyntaf yw’r negeseuon hyn – a llawer iawn o rai tebyg – mewn sgam gwe-rwydo sydd â’r nod o dwyllo’r derbynwyr i gysylltu â’r rhif newydd ac yn y pen draw, i rannu eu data personol i’w ddefnyddio mewn pob math o ffyrdd drygionus, gan gynnwys dwyn hunaniaeth a thwyll trosglwyddo arian.

Mae enghreifftiau wedi’u gweld hefyd o’r sgam yn gweithio’r ffordd arall, lle mae’r anfonwyr yn smalio bod yn rhiant yn dweud wrth eu plentyn eu bod wedi cael rhif newydd – yr un yw’r bwriad, sef dwyn arian neu fanylion personol.

Gan fod y sgam yn defnyddio negeseuon SMS – yn hytrach nag ap fel Whatsapp, er enghraifft – mae’n fwy credadwy, gan na fyddai apiau felly wedi’u gosod ar ffôn newydd yn ôl pob tebyg.

Mae’r sgamiau hefyd yn rhoi pobl ifanc mewn perygl

Yn ogystal â pheryglu’r sawl sy’n derbyn y negeseuon, mae’r sgamiau’n bygwth pobl ifanc gan y gallai’r rhiant ddechrau defnyddio’r rhif newydd a methu â chael gafael arnynt os oes angen.

Os cewch chi neges fel hyn, dyma argymhellion y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach:

  • ffoniwch yr anfonwr ar eu rhif ffôn gwreiddiol i holi a yw’r neges yn un go iawn
  • os na fedrwch chi gael gafael arnynt ar y ffôn, anfonwch neges destun yn gofyn rhywbeth fel ‘pa liw ydi car dad?’ neu ‘pa liw ydi’r drws ffrynt?’
  • ewch ar-lein i weld a yw’r rhif wedi nodi fel un twyllodrus
  • peidiwch byth â rhannu manylion personol na gwneud unrhyw daliad gyda’ch ffôn oni bai eich bod yn hollol siŵr bod y sawl sy’n siarad â chi’n dweud y gwir
  • byddwch yn wyliadwrus rhag geiriadau amheus, sillafiadau anarferol neu ymadroddion na fyddai’ch plentyn neu riant yn eu defnyddio fel arfer – er bod y negeseuon twyllodrus yn gredadwy, mae llawer o’r sgamwyr yn gwneud gwallau amlwg, yn enwedig os nad ydynt yn rhugl yn yr iaith
  • cymerwch funud cyn ateb y neges i bwyso a mesur a yw’n un go iawn.

Meddai Katherine Hart, Swyddog Arweiniol y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach ar gyfer Sgamiau: “Mae cael pen rhyddid i grwydro a gweld y byd yn rhan bwysig o fod yn ifanc, ac mae rhieni wrth reswm yn poeni a yw eu plant yn ddiogel, ac eisiau medru cael gafael arnynt rhag ofn bod argyfwng. Mae sgamwyr yn gwybod hynny’n iawn ac maen nhw’n manteisio ar bryderon pobl drwy smalio bod yn aelodau o’r teulu, gyda’r nod yn y pen draw o gasglu gwybodaeth bersonol.

“Y newyddion da ydi bod yno bethau syml y gallwch eu gwneud i roi rhywfaint o dawelwch meddwl ichi ac osgoi cael eich twyllo, fel ffonio rhif gwreiddiol yr anfonwr honedig neu ofyn cwestiynau na fyddai neb arall yn medru eu hateb.

“Mae unrhyw riant – yn enwedig rhai â phlant yn eu harddegau – yn gwybod am y drama sy’n digwydd pan mae ffôn yn torri neu’n mynd ar goll. Mewn sefyllfaoedd felly mae’n rhy hawdd gwneud penderfyniadau ar fympwy ac edifaru wedyn.  Rydym yn cynghori unrhyw un sy’n cael neges fel hyn yn ddirybudd i gymryd munud neu ddau i wneud yn siŵr ei bod yn neges go iawn. Gallai gwneud hynny arbed llawer iawn o drafferth yn nes ymlaen.”

Meddai John Herriman, Prif Weithredwr y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach: “Fe wnaiff sgamwyr fanteisio ar unrhyw gyfle i wneud elw o amgylchiadau personol pobl. Mae’r sgamiau yma’n manteisio ar angen y rhieni i gadw mewn cysylltiad â’u plant. Maen nhw’n cymryd mantais ar natur pobl ac mae eu hymdrechion sinigaidd i ddwyn arian a data’n ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd gysylltu â’i gilydd mewn argyfwng.

Fel bob amser, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus. Os cewch chi neges fel hyn, peidiwch ag ateb, ond rhowch wybod inni amdani fel y gallwn gael gwell syniad o faint y broblem, a’i gwneud yn anoddach i sgamwyr wneud eu gwaith.”

Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Sgamiau

Rhennir y datganiad hwn fel rhan o ymgyrch Ymwybyddiaeth o Sgamiau. Nod yr ymgyrch yw rhoi’r sgiliau i bobl fedru adnabod sgamiau, annog pobl i rannu eu profiadau o sgamiau a helpu pobl i fagu’r hyder i roi gwybod am sgamiau. Cyngor ar Bopeth sy’n arwain yr ymgyrch ar y cyd â’r Bartneriaeth Diogelu Defnyddwyr.

Am gyngor ar sgamiau ffoniwch Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.
I roi gwybod am sgam yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch ag Action Fraud. Yn yr Alban, cysylltwch ag Advice Direct Scotland ar 0808 800 9060 ac yng Ngogledd Iwerddon, Consumerline ar 0300 123 6262.

Anogir y cyhoedd i ymuno â Friends against Scams, ymgyrch Safonau Masnach Cenedlaethol sydd â’r nod o warchod pobl a’u hatal rhag dioddef twyll drwy eu grymuso i sefyll yn erbyn sgamiau.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Rhannu
Erthygl flaenorol Erthygl Gwadd: Network Rail- cwbwlhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r trac... Erthygl Gwadd: Network Rail- cwbwlhau gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r trac…
Erthygl nesaf Cup of tea Woody’s Lodge yn cynnig Sesiwn Galw Heibio Newydd i Gyn-filwyr i gael Cefnogaeth a Meithrin Cyfeillgarwch yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English