Rydym yn falch o gadarnhau y bydd y Gwasanaeth Coffa Blynyddol yn cael ei gynnal eleni gyda mân gyfyngiadau ddydd Sul 14 Tachwedd 2021 wrth Gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, Wrecsam.
Bydd y parêd milwrol yn gadael Barics Hightown a bydd grwpiau o gyn-filwyr, grwpiau ieuenctid gan gynnwys Cybiau a Brownis a sefydliadau lleol eraill yn ymuno â’r orymdaith ar Stryt Caer.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 10.55 ac am 10.59, bydd y biwglwr yn canu’r “Caniad Olaf” a chynhelir dau funud o dawelwch.
Estynnir gwahoddiad i chi ddod i’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rhai hynny a frwydrodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a’r holl wrthryfeloedd dilynol.
Eleni, oherwydd y pandemig parhaus rydym yn gofyn i bawb sy’n mynychu ystyried gwisgo masg yn enwedig os nad ydynt yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth y rheiny o’u hamgylch. Ni chaniateir mynediad cyhoeddus i’r Neuadd Goffa cyn nac ar ôl y digwyddiad oherwydd ei bod yn cael ei defnyddio fel safle profi Covid-19 ar hyn o bryd.
Gall unrhyw un sy’n dymuno gosod torch ond sy’n methu â mynychu neu’n teimlo’n anghyfforddus yn mynychu digwyddiad mawr wneud hynny ar ôl y gwasanaeth pan fydd llai o bobl o gwmpas.
Mae’r Gorchymyn Gwasanaeth ar gael i’w lawrlwytho yma, a bydd copïau ar gael ar y diwrnod hefyd.
Bydd rhwystrau’n cael eu gosod am 10.30am yn y lleoliadau canlynol er mwyn i’r parêd allu pasio’n ddiogel ac i ddiogelu’r ardal o’i amgylch:
• Stryt Caer (ger hen dafarn y Plu)
• Stryt Holt (ger tafarn y Ffiwsilwyr Cymreig)
• Ffordd Caer (ger cylchfan Ffordd Caer / Ffordd Powell)
Felly dim ond tan 10.30am y bydd modd cael mynediad i Faes Parcio Bodhyfryd ger Byd Dŵr.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL