Mae’n fore braf o hydref, mae gennych chi ddiwrnod o wyliau ac rydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud efo’r teulu.
Mae’n rhaid dweud bod llwyth i wneud yng nghanol y dref; ond beth am fynd i rywle gwahanol y tro nesa y byddwch chi’n trefnu diwrnod allan? Beth am y Stiwt yn Rhos?
Mae nifer ohonom ni’n gyfarwydd â’r Stiwt am y perfformiadau pantomeim gwych sydd yno – ond a ydych chi’n gwybod beth arall mae’n ei gynnig?
“Mae bob dim y gallai rhywun fod eisiau yma”
Hoff o rygbi? Dyma’r lle i chi. Fe fydd y Stiwt yn dangos Cyfres Rygbi Rhyngwladol yr Hydref drwy gydol mis Tachwedd – mae mynediad am ddim ac mae cwrw ar y tap, felly ’does dim rheswm i aros adre!
Efallai eich bod chi eisiau rhywbeth i’r plant ei wneud am awr neu ddwy fore Sadwrn? Does dim rhaid edrych ymhellach. Mae’r Stiwt yn dangos ffilm am ddim bob bore Sadwrn gyda fferins a hufen iâ.
Neu, os ydych chi’n chwilio am rywbeth gydag ychydig mwy o symud, beth am roi cynnig ar ddosbarth dawnsio clasurol ar nos Fercher neu nos Iau?
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Stiwt, Rhys Davies: “Mae o’n lle mor arbennig… mae bob dim y gallai rhywun fod eisiau yma.”
Beth bynnag ydych chi’n ei hoffi, mae rhywbeth i bawb yn y Stiwt.
Cymerwch gip ar ein calendr digwyddiadau i weld beth sydd ar gael.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN