Gweithio i Asiantaeth? Gweithio sifftiau afreolaidd? A wyddoch chi fod gennych hawl i gael cyflog gwyliau?
Mae 35% o weithwyr o dan gamargraff mai dim ond pobl mewn swyddi parhaol sy’n cael cyflog gwyliau.
Mae gwerth £1.8 miliwn o gyflog gwyliau’n mynd yn ofer bob blwyddyn, gan effeithio ar oddeutu 1.8 miliwn o weithwyr i gyd.
Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i bob cyflogwr ddarparu gwyliau blynyddol â chyflog. Cyfrifir cyflog gwyliau ar sail y math o oriau mae rhywun yn gweithio a sut maen nhw’n cael eu talu am yr oriau hynny. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr llawn amser a rhan-amser, gweithwyr asiantaeth a phobl sy’n gweithio sifftiau afreolaidd.
Oeddech chi’n gwybod…
- Eich bod yn ennill cyflog gwyliau am bob awr yr ydych chi’n gweithio?
- Eich bod â’r hawl yn ôl y gyfraith i gael cyflog gwyliau, p’un a ydych chi’n gweithio’n llawn amser, rhan-amser neu oriau afreolaidd?
- Bod 1.8 miliwn o weithwyr ar eu colled gyda chyflog gwyliau’r llynedd? Peidiwch chi â bod yn un ohonynt.
- Bod 35% o weithwyr o dan gamargraff mai dim ond pobl mewn swyddi parhaol sy’n cael cyflog gwyliau?
- Os ydych chi’n gweithio gwahanol oriau o un wythnos i’r llall, bod y swm y cewch chi eich talu wrth gymryd gwyliau’n dibynnu ar eich tâl ar gyfartaledd yn y ddeuddeg wythnos cyn eich gwyliau?
- Siaradwch â’ch cyflogwr os nad ydych chi’n siŵr o’ch sefyllfa benodol eich hun, neu os ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n cael y cyflog gwyliau sy’n ddyledus ichi.
I gael mwy o wybodaeth, holwch eich cyflogwr neu ewch i GOV.UK.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN