Efallai y bydd tai cymdeithasol y cyngor yn cael eu hadeiladau yn Wrecsam cyn bo hir.
Yn gynharach yr wythnos hon, cymeradwyodd bwrdd gweithredol y Cyngor y gwaith i ddymchwel hen gartref gofal Nant Silyn ym Mharc Caia. Unwaith mae’r gwaith dymchwel wedi cael ei gwblhau, y cynllun yw adeiladu 12 tŷ newydd y cyngor ar y safle.
Mae’r adeilad wedi bod ar gau ers 2015 â’i ffenestri dan goed ac wedi’i ddiogelu yn dilyn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ger y safle.
Bydd tai newydd yn helpu i ddiwallu’r angen am dai modern
Rydym yn gallu prynu’r tir nawr ar gyfer pwrpasau adeiladu tai cymdeithasol newydd, diolch i’r cynllun Adeiladu a Phrynu a gafodd ei gymeradwyo yn 2015.
Yn yr achos hwn, mae tir Nant Silyn eisoes yn perthyn i’r cyngor, felly bydd perchnogaeth nawr yn cael ei drosglwyddo i Gyfrif Refeniw Tai’r Cyngor fel bod y cynllun tai newydd yn gallu mynd yn ei flaen.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at adeiladu’r tai cyngor newydd cyntaf yn Wrecsam ers sawl blwyddyn felly mae hyn yn arwydd calonogol iawn.
“Byddwn nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartner arall i adeiladu 12 tŷ newydd ar y safle hwn.
“Mae gofyn am dai modern yr unfed ganrif ar hugain yn y fwrdeistref sirol, ac rydw i’n falch iawn ein bod mynd i’r afael â’r gwaith i wneud i hyn ddigwydd. Bydd llawer mwy o gynlluniau fel hyn i ddod yn y dyfodol gobeithio.
“Rydym hefyd wedi bod yn buddsoddi ffigyrau anferth – £56.4m yn 2017/18 yn unig – i foderneiddio ein stoc dai presennol felly mae hyn yn dangos bod dyfodol disglair iawn i dai cymdeithasol yn Wrecsam.”
Beth sy’n digwydd nesaf
Y cam nesaf fydd cael cymeradwyaeth i’r caniatâd cynllunio a sicrhau ein bod yn gallu derbyn rhaglenni nawdd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect adeiladu.
Mae Grant Cyllid Tai ar gael i’r Cyngor a dyraniad dangosol y nawdd yw £1.6m yn 2018/19 gyda £1.1m ychwanegol yn 2019/20. Mae’r nawdd yn cael ei ddarparu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi ei ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd o fewn ei thymor presennol.
Ffocws ar dai pobl ag anghenion ychwanegol
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Y cynllun yw ailddatblygu safle’r gartref gofal ac adeiladu tai newydd a fydd yn canolbwyntio ar dai wedi’u haddasu ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol. Rydw i’n hapus iawn bod y cynllun wedi cael cymeradwyaeth i symud ymlaen.”
Dywedodd Aelod Lleol Smithfield, y Cynghorydd Adrienne Jeorrett: “Rydw i’n falch iawn mai Smithfield cafodd ei ddewis fel yr ardal gyntaf i dderbyn tai newydd arfaethedig y cyngor. Mae hyn yn newyddion gwych i’r ardal leol ac mae’n dangos ein bod ni nawr yn gweithredu i sicrhau ein bod yn bodloni’r angen ar gyfer tai yn yr ardal.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT