Efallai eich bod yn cofio nôl i 2017, roeddem wedi gosod golau a oedd unwaith yn ymgartrefu yn yr hen sinema’r Hippodrome yn Arcêd y De Tŷ Pawb – ac mae wedi derbyn llawer o ganmoliaeth yn ei gartref newydd.
Yn ogystal ag addurno un o’r mynedfeydd i Tŷ Pawb, mae golau’r Hippodrome wedi ysbrydoli gwaith celf newydd a luniwyd gan dîm o artistiaid sy’n gweithio yn y cyfleuster.
Ac mae’r gwaith hwnnw nawr ar werth – gan olygu y gallwch ddod ag atgof yr hen Hippodrome i’ch cartref!
Lluniwyd y cysgod lamp fel rhan o’r Prosiect ‘Designer Maker’ – a ddaeth Tŷ Pawb at ei gilydd gyda’r dylunydd Tim Denton a chyfranogwyr rhaglen gyflogadwyedd mentora cymheiriaid a noddir gan yr UE, Cyfle Cymru, ar gyfer pobl gyda phrofiad o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl, a gynhelir gan yr elusen adsefydlu ac adferiad CAIS. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymu a Gwasanaeth Di-Waith Cymru Iach ar Waith.
Dyluniwyd y cysgod lamp gan Tim, gydag ysbrydoliaeth ffurf Art Deco golau’r Hippodrome, a’i gyfuno gyda llinellau clir dyluniad modern, Scandinafaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r prosiect hwn yn esiampl wych o’r gwaith mae Tŷ Pawb yn gallu ei greu wrth gydweithio gyda sefydliadau eraill, ac rydym yn ddiolchgar iawn i CAIS a Tim Denton am yr holl ymdrechion anhygoel a ddangoswyd drwy gydol prosiect Designer Maker.
“Mae’r prosiect Designer Maker yn cwmpasu popeth mae Tŷ Pawb yn ei olygu – gan gynnwys manteision cymdeithasol y celfyddydau, dysgu sgiliau newydd a darparu cefnogaeth i’r rheiny sydd ei angen.
“Mae ganddo gyswllt cryf gyda hanes Wrecsam, o wybod y cyswllt gweledol iawn gyda’r hen Hippodrome a’r dylanwad a gafodd dyluniad y golau ar y cysgod lamp newydd a gynhyrchwyd gan y prosiect Designer Maker.”
Dywedodd mentor cymheiriaid Cyfle Cymru, George James: “Roedd cyfranogwyr ein prosiect wrth eu bodd yn cymryd rhan yn y cynllun gwych, ymarferol hwn, ynghyd â’r tîm yn Tŷ Pawb.
“Roeddent yn gallu dysgu sgiliau newydd, darganfod rhagor o wybodaeth am dreftadaeth Wrecsam a dangos i bobl sy’n gwella eu bod yn gwneud gwir gyfraniad i’w cymunedau – ac roeddent wedi gwirioni o weld eu gwaith ar werth yn Siop//Shop dros y Nadolig!”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR