Ar gyfer yr wythnos hon bydd ailgylchu ychwanegol yn cael ei gymryd os mewn cynwysyddion addas.
Oherwydd y swm uchel o wastraff rydym yn ei gasglu, mae’n rhaid i ni orffen rhai rowndiau cyn casglu’r holl ailgylchu a gwastraff, ond ar ôl gwagio ein tryciau casglu ailgylchu a sbwriel byddwn yn dychwelyd i gasglu’r gweddill (sicrhewch fod ailgylchu yn ddiogel rhag y gwynt).
Gan fod Ionawr 1 yn ŵyl banc, mae ailgylchu a chasglu sbwriel ar gyfer dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener ddiwrnod yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly os ydych fel arfer yn cael casgliad ar ddydd Gwener, bydd hyn ar ddydd Sadwrn yr wythnos hon.
Os bydd y tywydd yn effeithio ar hyn byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen llaw ag y gallwn. Gallwch wirio dyddiad casglu eich bin ar ein gwefan.
Mae ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (CAG) ar agor fel arfer – lle gellir cymryd deunydd ychwanegol ac archebu cynwysyddion ychwanegol a’u casglu o safleoedd CAG.