Heddiw, rydym wedi lansio ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal. Mae’r addewid hon i bob person ifanc yn Wrecsam sydd mewn gofal ac mae wedi’i hysgrifennu gyda chyngor gofal pobl ifanc. Bydd pob oedolyn sy’n gweithio gyda chi yn sicrhau bod yr addewid yn cael ei gwireddu – os nad yw hyn yn wir, rhowch wybod i ni!
Mae’r addewid yn nodi’r disgwyliadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddarparu gofal, cefnogaeth a chyfleoedd o safon uchel i blant a phobl ifanc.
Beth mae’r addewid yn ei gynnwys?
Dyma rai o’r pethau sydd wedi’u cynnwys yn ein haddewid:
- Byddwn yn dy helpu i aros yn ddiogel a byddwn yno i ti pan fydd ein hangen arnat.
- Byddwn yn dy helpu i fyw bywyd iach yn gorfforol a meddyliol.
- Byddwn yn rhoi lle cyson i ti fyw, lle rwyt ti’n teimlo’n ddiogel a bod rhywun yn malio amdanat.
- Byddwn yn dy drin mewn ffordd gyfeillgar a pharchus i barchu dy gyfrinachedd a dy breifatrwydd.
- Byddwn yn rhoi gwahanol ffyrdd i ti leisio dy farn. Byddwn yn gwrando a chymryd dy farn o ddifrif. Byddwn yn dy helpu di i ddelio gyda dy broblemau.
- Byddwn yn dweud wrthyt am bopeth mae gen ti hawl iddo, mewn ffordd glir ac agored.
Gallwch weld yr addewid lawn i blant a phobl ifanc dros 11 oed a dan 11 oed yma.
Sut byddwn yn mesur a yw’r addewid yn llwyddiannus?
Bydd pob plentyn sy’n dod i mewn i’n system ofal yn cael copi o’n haddewidion iddyn nhw.
Bydd hyn yn ein helpu i gasglu barn y plant a’r bobl ifanc a bydd yn sicrhau ein bod yn cadw at ein haddewidion iddynt.
Dylai plant a phobl ifanc fod â disgwyliadau uchel o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fod yn rhieni da iddynt.
Bydd pob un o’n gweithwyr gofal cymdeithasol, swyddogion ac aelodau arweiniol yn ymwybodol o’r addewidion a byddant yn ffurfio’r ffordd maen nhw’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Wrecsam.
“Mae angen i ni sicrhau bod pob un o’n haddewidion yn cael eu gwireddu”
Dywedodd y Cyng Andrew Atkinson, aelod arweiniol gwasanaethau plant, “Yr addewid yw ein hymrwymiad i fod yn rhiant da i’r plant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu sy’n gadael gofal yn yr awdurdod lleol. Mae’n nodi’r disgwyliadau i ni ddarparu gofal, cefnogaeth a chyfleoedd o safon uchel i bobl ifanc.
Mae angen i ni sicrhau bod pob un o’n haddewidion yn cael eu gwireddu ac os oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn credu nad ydym yn cyflawni ein haddewidion, mae angen iddynt roi gwybod i ni. Byddwn ni’n gwrando.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau gofal cymdeithasol a’n haddewid, ewch i’n gwefan.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN