Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Rydym yn addo eich trin â pharch”…ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > “Rydym yn addo eich trin â pharch”…ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal
Pobl a lleY cyngor

“Rydym yn addo eich trin â pharch”…ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2020 3:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Promise
RHANNU

Heddiw, rydym wedi lansio ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal. Mae’r addewid hon i bob person ifanc yn Wrecsam sydd mewn gofal ac mae wedi’i hysgrifennu gyda chyngor gofal pobl ifanc. Bydd pob oedolyn sy’n gweithio gyda chi yn sicrhau bod yr addewid yn cael ei gwireddu – os nad yw hyn yn wir, rhowch wybod i ni!

Cynnwys
  • Beth mae’r addewid yn ei gynnwys?
  • Sut byddwn yn mesur a yw’r addewid yn llwyddiannus?
  • “Mae angen i ni sicrhau bod pob un o’n haddewidion yn cael eu gwireddu”

Mae’r addewid yn nodi’r disgwyliadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddarparu gofal, cefnogaeth a chyfleoedd o safon uchel i blant a phobl ifanc.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Beth mae’r addewid yn ei gynnwys?

Dyma rai o’r pethau sydd wedi’u cynnwys yn ein haddewid:

  • Byddwn yn dy helpu i aros yn ddiogel a byddwn yno i ti pan fydd ein hangen arnat.
  • Byddwn yn dy helpu i fyw bywyd iach yn gorfforol a meddyliol.
  • Byddwn yn rhoi lle cyson i ti fyw, lle rwyt ti’n teimlo’n ddiogel a bod rhywun yn malio amdanat.
  • Byddwn yn dy drin mewn ffordd gyfeillgar a pharchus i barchu dy gyfrinachedd a dy breifatrwydd.
  • Byddwn yn rhoi gwahanol ffyrdd i ti leisio dy farn. Byddwn yn gwrando a chymryd dy farn o ddifrif. Byddwn yn dy helpu di i ddelio gyda dy broblemau.
  • Byddwn yn dweud wrthyt am bopeth mae gen ti hawl iddo, mewn ffordd glir ac agored.

Gallwch weld yr addewid lawn i blant a phobl ifanc dros 11 oed a dan 11 oed yma.

Sut byddwn yn mesur a yw’r addewid yn llwyddiannus?

Bydd pob plentyn sy’n dod i mewn i’n system ofal yn cael copi o’n haddewidion iddyn nhw.

Bydd hyn yn ein helpu i gasglu barn y plant a’r bobl ifanc a bydd yn sicrhau ein bod yn cadw at ein haddewidion iddynt.

Dylai plant a phobl ifanc fod â disgwyliadau uchel o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fod yn rhieni da iddynt.

Bydd pob un o’n gweithwyr gofal cymdeithasol, swyddogion ac aelodau arweiniol yn ymwybodol o’r addewidion a byddant yn ffurfio’r ffordd maen nhw’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Wrecsam.

“Mae angen i ni sicrhau bod pob un o’n haddewidion yn cael eu gwireddu”

Dywedodd y Cyng Andrew Atkinson, aelod arweiniol gwasanaethau plant, “Yr addewid yw ein hymrwymiad i fod yn rhiant da i’r plant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu sy’n gadael gofal yn yr awdurdod lleol. Mae’n nodi’r disgwyliadau i ni ddarparu gofal, cefnogaeth a chyfleoedd o safon uchel i bobl ifanc.

Mae angen i ni sicrhau bod pob un o’n haddewidion yn cael eu gwireddu ac os oes unrhyw blentyn neu berson ifanc yn credu nad ydym yn cyflawni ein haddewidion, mae angen iddynt roi gwybod i ni. Byddwn ni’n gwrando.”

“Rydym yn addo eich trin â pharch”...ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy'n gadael gofal
“Rydym yn addo eich trin â pharch”...ein haddewid i bob plentyn mewn gofal a phlant sy'n gadael gofal
promise

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau gofal cymdeithasol a’n haddewid, ewch i’n gwefan.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Acton Park View Scenery Bench Hoffech chi weithio yn yr awyr agored yn ein parciau gwledig bendigedig? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Erthygl nesaf Carnival Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam yn ôl eto eleni!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English