Fel sefydliadau mawr eraill, rhaid i gynghorau amddiffyn eu hunain yn erbyn twyll.

Mae’n rhaid i ni gyflwyno’r gwiriadau ariannol cywir i atal pethau gwael rhag digwydd – gwneud yn siŵr fod arian trethdalwyr (eich arian chi) yn cael ei reoli a’i gyfrifo amdano’n gywir.

Nid oes llawer o dystiolaeth fod twyll yn broblem fawr i Gyngor Wrecsam, ond mewn byd cynyddol gymhleth – lle mae cynghorau’n cynnig gwasanaethau mewn sawl ffordd, ac wrth i fygythiadau cynyddol fel seiberdroseddu gyrraedd y penawdau – mae’n bwysig iawn ein bod yn rheoli’r perygl o dwyll.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Dyna pam ein bod wedi mabwysiadu strategaeth newydd, sy’n ein hymrwymo i ddull ‘Llym ar Dwyll’.

“Beth mae hyn yn ei olygu?”

Rydym yn gwneud addewid syml i chi. Pryd bynnag ein bod yn sylwi ar dwyll neu lygredd yn erbyn y cyngor – boed hynny’n ymwneud ag un o’r staff, cwsmer neu unrhyw un arall – byddwn ni bob amser yn cymryd camau cyfreithiol neu ddisgyblu (neu’r ddau).

A byddwn ni bob amser yn ceisio adennill unrhyw arian sydd wedi ei gymryd, ac unioni pethau.

Mae hyn yn berthnasol i bob math o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd. Dim eithriadau.

“Pob punt a gollir…”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor Wrecsam: “Mae pob punt a gollir oherwydd twyll yn bunt y gellid ei gwario ar wasanaethau.

“Ond yn ogystal â’r golled ariannol, mae goblygiadau ehangach i dwyll a llygredd. Maent y tarfu arnom, yn difrodi ysbryd ac yn tanseilio hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus.

“Dyna pam ein bod yn gobeithio y bydd pawb yn ein cefnogi yn ein hymrwymiad. Os ydych yn gwybod am, neu’n amau, twyll yn erbyn eich cyngor, rhowch wybod i ni amdano.”

“Helpwch ni i gadw arian trethdalwyr yn ddiogel”

Os ydych yn gwybod am, neu’n amau, twyll budd-daliadau, rhowch wybod amdano yma,  neu ffoniwch 0800 854 440.

I roi gwybod am fathau eraill o dwyll a llygredd, anfonwch e-bost stampoutfraud@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292728.

I weld ein Strategaeth Gwrth-Dwyll ac i wybod mwy ynglŷn â sut i roi gwybod am dwyll, ewch i’n gwefan.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

COFRESTRU