Rydym yn chwilio am Bennaeth ymroddedig a brwdfrydig ar gyfer Ysgol Bodhyfryd, sy’n ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fawr ar gyrion canol tref Wrecsam.
Mae’r ysgol wedi hen ennill ei phlwyf yn yr ardal leol a dyma’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hagor yn Wrecsam.
Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?
Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd:
- yn gallu ysgogi ac ennyn hyder yng nghymuned yr ysgol, gan ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog;
- yn ymarferydd rhagorol gyda llwyddiant blaenorol o godi safonau a gweledigaeth glir o addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bawb;
- yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo i ddatblygu potensial llawn pob plentyn drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol;
- yn gallu cynnig profiad hapus a chadarnhaol i gymuned gyfan yr ysgol.
Os yw hyn yn swnio fel cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa, ewch i ddysgu mwy am y swydd ac am sut i wneud cais yn y Gymraeg yma.
Meddai Liz Edwards, Cadeirydd y Llywodraethwyr, “Mae’r ysgol yn edrych ymlaen at gael penodi pennaeth ymroddedig a brwdfrydig i’n harwain ni wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith ac i ddatblygu ar lwyddiannau’r gorffennol.
“Mae’r swydd wedi bod yn wag ers peth amser yn sgil pandemig Covid-19, ac rydym bellach yn edrych ymlaen at gael ei llenwi er mwyn sicrhau parhad ar gyfer yr ysgol wrth symud ymlaen.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg, “Mae yna alw mawr am addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam ac nid yw Ysgol Bodhyfryd yn eithriad. Rydym wedi ymroi i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei harwain gan bennaeth angerddol a brwdfrydig all ymrwymo i’r staff, y disgyblion a’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
“Gall yr ymgeisydd llwyddiannus edrych ymlaen at arwain a chydweithio â staff addysgu llawn cymhelliant yn y dyfodol.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Tachwedd 2021.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon yn ein hysgol, felly i gael rhagor o wybodaeth am y swydd ac i wneud cais yn y Gymraeg, ewch i: https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/?language=cy