Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021
Y cyngor

Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021

Diweddarwyd diwethaf: 2021/06/24 at 2:58 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Lluoedd Arfog
RHANNU

Rydym yn falch iawn o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog unwaith eto – er y bydd yn rhaid i ni wneud hynny o’n cartrefi eto eleni.

Cynnwys
Sut gallaf gymryd rhan eleni?Saliwtio Ein LluoeddYmwelwch â’r tudalennau cyfryngau cymdeithasolCysylltwch â rhywun

Mae Baner y Lluoedd Arfog bellach yn chwifio uwchben ein swyddfeydd a gofynnwn i’r cyhoedd dalu teyrnged i’r rheiny sydd wedi gwasanaethu eu gwlad er mwyn ein cadw ni, ein teuluoedd a’n cymunedau’n ddiogel.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai a Chefnogwr y Lluoedd Arfog, “Eleni, unwaith eto, mae gennym ddyled i’w thalu i gymuned y Lluoedd Arfog. Yn ystod y pandemig, maent wedi gyrru ambiwlansiau, cynorthwyo mewn canolfannau profi a brechu ac wedi bod i ffwrdd o’u teuluoedd er mwyn ein diogelu.

“Hoffwn i, ynghyd â’m cyd-gynghorwyr a’m cydweithwyr, ddiolch o galon iddynt oll.

I nodi’r digwyddiad eleni, mae’r Swyddfa Gartref wedi comisiynu fideo i’w rannu â chi. Gallwch wylio’r fideo isod:

Clywch gan y Cynghorydd David Griffiths o @cbswrecsam am ei rôl fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a gwaith Cyfamod y Lluoedd Arfog lleol.

@AFLO32060188#DiwrnodLluoeddArfog #WythnosLluoeddArfog pic.twitter.com/09pdJTXxPn

— UK Government in Wales (@UKGovWales) June 24, 2021

(cynhyrchwyd y fideo gan y Swyddfa Gartref a dim ond yn Saesneg y mae’r fideo ar gael)

“Mae’n bleser cael bod yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog yn Wrecsam”

“Mae’n bleser cael bod yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog yn Wrecsam, ac edrychaf ymlaen at pan fyddwn yn gallu dangos ein cefnogaeth a thalu teyrnged yn bersonol ac mewn steil. Ymunwch â mi i saliwtio ein cyn-filwyr, y rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’u teuluoedd eleni i ddangos ein cefnogaeth barhaus.”

Sut gallaf gymryd rhan eleni?

Mae sawl ffordd y gallwch ddangos eich cefnogaeth i’n lluoedd arfog eleni:

Saliwtio Ein Lluoedd

Mae #SaliwtioEinLluoedd yn ffordd syml i unrhyw un dalu teyrnged i gymuned y lluoedd am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u hymdrechion i’n cadw ni’n ddiogel yn y DU ac ar draws y byd.

I ymuno, anfonwch lun neu fideo ohonoch eich hun neu eich ffrindiau a chydweithwyr yn saliwtio atom!

Byddai trefnwyr Diwrnod y Lluoedd Arfog wrth eu boddau’n gweld eich lluniau, a gallwch eu rhannu isod ar Twitter gyda gan ddefnyddio #SaliwtioEinLluoedd, rhoi sylw ar un o’u Negeseuon Facebook  neu anfon e-bost uniongyrchol at armedforcesdayuk@gmail.com.

Ymwelwch â’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol

Ewch i weld a rhannu eu negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd iddynt ar Facebook: https://www.facebook.com/armedforcesday/ neu Twitter:  https://twitter.com/ArmedForcesDay

Cysylltwch â rhywun

Os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi gwasanaethu neu’n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog ar hyn o bryd, beth am gysylltu â nhw a diolch iddynt yn bersonol am eu cyfraniad.

Mae Wrecsam wedi cael eu dewis unwaith eto i gynnal Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru, a gynhelir ddydd Sadwrn, 25 Mehefin, a chroesi bysedd y byddwn yn gallu cynnal digwyddiad sy’n addas i’n Lluoedd Arfog, byddwn yn rhannu rhagor o newyddion mewn perthynas â hyn unwaith y bydd modd.

Dyma gipolwg i chi o’r digwyddiad diwethaf a gynhaliom yn 2014:

https://www.youtube.com/watch?v=FolPN5T2-ZI

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Chester Shrewsbury Cais am gyllid i wella lein Wrecsam-Bidston
Erthygl nesaf Covid 19 Achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhannau o Ogledd Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English