Gall trigolion ardal y Waun fynd i wirio ansawdd yr aer eu hunain bellach ar ôl i safle monitro ansawdd aer gael ei greu yn yr ysbyty cymunedol.
Bydd y safle’n monitro nitrogen deuocsid, cyfansoddion organig anweddol a gronynnau (2.5 μm a 10 μm) yn barhaus.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd yr holl ganlyniadau ar gael ar wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru: www.ansawddaer.llyw.cymru
Mae’r safle hefyd yn casglu data am gyfeiriad a chyflymdra’r gwynt, a fydd ar gael yn www.airqweb.co.uk.
Mae’r safle hwn yn rhan bwysig o raglen monitro ansawdd aer barhaus Cyngor Wrecsam, gyda’r canlyniadau yn cael eu hasesu’n annibynnol yn flynyddol a’u hadrodd i Lywodraeth Cymru.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL