Mae ein hadran Safonau Masnach wedi gweld cynnydd mewn cwynion gan breswylwyr sydd wedi cael gwaith atgyweirio ar y to.
Yn aml mae’r preswylydd wedi dod o hyd i’r gweithiwr ar-lein, ac maen nhw’n sôn am waith gwael, crocbrisiau a gwaith diangen yn cael ei gyflawni.
Mae hi’n syniad doeth dewis contractwr to sydd ag enw da a’u gwirio cyn eu cyflogi nhw.
Mae cyngor ar ddewis masnachwr ag enw da ar gael gan Wasanaeth Cyngor ar Bopeth
Gall preswylwyr hefyd ddod o hyd i fasnachwyr gan ddefnyddio
- Cynllun ‘Trustmark’ sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth
- Cynllun House Proud Cyngor Wrecsam
- Gofal a Thrwsio (mae gwasanaethau fel arfer gael i berchnogion tai 60 oed a hŷn)
Tra’n gwneud gwaith ailwampio ar 50% neu fwy o arwynebedd to, gellir defnyddio contractwr to sydd wedi cofrestru gyda Chynllun Person Cymwys Ffederasiwn Contractwyr To Cenedlaethol neu mae’n rhaid rhoi gwybod i adran Rheoli Adeiladu’r Awdurdod Lleol cyn i’r gwaith ddechrau. Mae hyn er mwyn cadarnhau y dylai’r to gael ei uwchraddio i fodloni gofynion thermal Rhan L y Rheoliadau Adeiladu presennol.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, “Bydd dilyn ein cyngor ar sut i ddod o hyd i grefftwyr y gellir ymddiried ynddynt yn lleihau’r perygl bod gwaith gwael am grocbris yn cael ei gyflawni, serch hynny ni fydd yn cael gwared ar y perygl yn llwyr. “Bydd diwydrwydd dyladwy cyn unrhyw welliannau i’r cartref yn gwella eich siawns o gael y safon cywir o waith ar bris y farchnad.”