Roedd ein tîm Safonau Masnach allan yn Wrecsam yn ddiweddar yn rhan o’u hymgyrch i fynd i’r afael â phroblem masnachwyr twyllodrus sy’n gweithredu yn y Sir.
Gan weithio gyda phartneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, bu swyddogion yn ymweld â phentrefi o amgylch tref Wrecsam, i siarad gyda Masnachwyr sy’n gwneud gwaith i’n preswylwyr.
Siaradodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyda nifer o fusnesau nad oedd ganddynt Drwydded Cludydd Gwastraff ac mae’r rhain bellach wedi derbyn cyngor ac arweiniad.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ni all unrhyw un sy’n gweithredu heb drwydded ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ac mae unrhyw sbwriel sy’n cael ei symud yn aml yn cael ei dipio’n anghyfreithlon gan achosi problem yn y fwrdeistref sirol. Os bydd modd olrhain sbwriel yn ôl at unrhyw un, byddant yn wynebu dirwy ac fe allent gael eu herlyn.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae busnesau dilys yn croesawu ein swyddogion yn ymyrryd i atal masnachwyr twyllodrus gan eu bod yn cymryd busnes oddi arnynt.
“Mae hi’n bwysig bod unrhyw fasnachwr sy’n gweithio yn y fwrdeistref sirol yn gweithredu’n gyfreithiol ac o fewn y gyfraith. Mae hyn yn amddiffyn unigolion rhag cael eu twyllo gan waith sydd yn aml yn rhy ddrud a safon y gwaith yn wael.”
Os ydych chi’n fusnes ac os hoffech chi wirio a ydych chi’n cydymffurfio, cliciwch ar y ddolen hon i gael cyngor cyfreithiol diduedd ac am ddim am gyfraith Safonau Masnach sydd wedi’i egluro mewn modd syml, cryno neu fanwl.
Rydym ni’n argymell bod busnesau yn ceisio cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol os ydynt angen cymorth i ddehongli’r gyfraith. I gael rhagor o wybodaeth am hawlenni/trwyddedau ar gyfer gwastraff, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH