Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau masnach yn mynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus yn ein pentrefi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Safonau masnach yn mynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus yn ein pentrefi
Y cyngor

Safonau masnach yn mynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus yn ein pentrefi

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 7, 2022 1:52 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Trading Standards
RHANNU

Roedd ein tîm Safonau Masnach allan yn Wrecsam yn ddiweddar yn rhan o’u hymgyrch i fynd i’r afael â phroblem masnachwyr twyllodrus sy’n gweithredu yn y Sir.

Gan weithio gyda phartneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, bu swyddogion yn ymweld â phentrefi o amgylch tref Wrecsam, i siarad gyda Masnachwyr sy’n gwneud gwaith i’n preswylwyr.

Siaradodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyda nifer o fusnesau nad oedd ganddynt Drwydded Cludydd Gwastraff ac mae’r rhain bellach wedi derbyn cyngor ac arweiniad.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Ni all unrhyw un sy’n gweithredu heb drwydded ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ac mae unrhyw sbwriel sy’n cael ei symud yn aml yn cael ei dipio’n anghyfreithlon gan achosi problem yn y fwrdeistref sirol.  Os bydd modd olrhain sbwriel yn ôl at unrhyw un, byddant yn wynebu dirwy ac fe allent gael eu herlyn.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae busnesau dilys yn croesawu ein swyddogion yn ymyrryd i atal masnachwyr twyllodrus gan eu bod yn cymryd busnes oddi arnynt.

“Mae hi’n bwysig bod unrhyw fasnachwr sy’n gweithio yn y fwrdeistref sirol yn gweithredu’n gyfreithiol ac o fewn y gyfraith. Mae hyn yn amddiffyn unigolion rhag cael eu twyllo gan waith sydd yn aml yn rhy ddrud a safon y gwaith yn wael.”

Os ydych chi’n fusnes ac os hoffech chi wirio a ydych chi’n cydymffurfio, cliciwch ar y ddolen hon i gael cyngor cyfreithiol diduedd ac am ddim am gyfraith Safonau Masnach sydd wedi’i egluro mewn modd syml, cryno neu fanwl.

Rydym ni’n argymell bod busnesau yn ceisio cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol os ydynt angen cymorth i ddehongli’r gyfraith.  I gael rhagor o wybodaeth am hawlenni/trwyddedau ar gyfer gwastraff, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tennis Gweithgareddau dros y Pasg i ddathlu ymweliad Tennis Cymru â Wrecsam
Erthygl nesaf Lego Ydych chi wedi ymweld ag arddangosfa LEGO® wych Amgueddfa Wrecsam eto?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English