Mae Facebook yn lle da i werthu pethau fel dodrefn, dillad, nwyddau trydanol ac ati. Gallwch werthu eich car, hyd yn oed.
Chewch chi ddim, fodd bynnag, gwerthu anifeiliaid byw.
Daeth hyn o dan y chwyddwydr yn ddiweddar mewn podlediad ar BBC Sounds, lle bu’r newyddiadurwr Ailsa Rochester yn ymchwilio i fasnachu mewn ceffylau ar Facebook gan amlygu’r peryglon o brynu anifeiliaid fel hyn.
Mae yno elfen o risg wrth brynu unrhyw geffyl – gallant ddal rhyw afiechyd neu fod yn anaddas i chi – ond mae’r rheolau ynglŷn â’u hysbysebu’n sicrhau bod yr hyn a gewch chi’n gyson â’r hyn a hysbysebwyd. Wrth fynd i werthwr traddodiadol neu arwerthiant, fe gewch sicrwydd eu bod yn dilyn y rheolau hynny.
Ond efallai nad yw Facebook bob tro’n gorfodi’r rheolau hynny, a gallech ddod ar draws amryw broblemau, gan gynnwys, er enghraifft:
- gwerthwr yn cuddio problemau posib
- problemau iechyd neu ymddygiad nad yw’r prynwr yn gwybod amdanynt
- gall fod yn haws gwerthu ceffylau sydd wedi’u dwyn neu’u cam-drin, eto’n ddiarwybod i’r prynwr.
Mae Adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn cynghori pobl i brynu gan werthwr awdurdodedig bob tro, cwrdd â’r prynwr a gweld y ceffyl cyn ei brynu, er mwyn sicrhau bod y prynwr yn cael holl hanes y ceffyl, gan gynnwys cofnodion iechyd. A byddwch bob amser yn wyliadwrus o brisiau rhad!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.