Mae saith cartref gofal yn Wrecsam wedi ennill gwobrau yn ddiweddar am y gwaith maen nhw’n ei wneud gyda RITA – meddalwedd therapi hel atgofion ac adfer rhyngweithiol.
Mae RITA yn ddatrysiad sgrin gyffwrdd sy’n cynnig therapi hel atgofion digidol ac yn adnodd gweddol newydd ym maes nyrsio a gofal iechyd. Mae’n cynnwys defnyddio sgriniau rhyngweithiol syml a llechen i gyfuno adloniant gyda therapi a chynorthwyo cleifion (yn arbennig cleifion gyda nam ar y cof) i gofio a rhannu digwyddiadau o’u gorffennol drwy weithgaredd fel gwrando ar gerddoriaeth, gwylio adroddiadau newyddion am ddigwyddiadau hanesyddol arwyddocaol, chwarae gemau, carioci a gwylio ffilmiau.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Cynhaliodd My Improvement Network seremoni wobrwyo’n ddiweddar i ddathlu’r rheiny sy’n defnyddio’r ddyfais ac i gyflwyno gwobrau i’r rheiny sydd wedi arddangos manteision y ddyfais. Llwyddodd saith lleoliad gofal yn Wrecsam i dderbyn gwobrau.
- Gwobr Aur: Defnydd gorau o RITA ar gyfer anableddau dysgu: Dolywern, Leonard Cheshire
- Gwobr Aur: Defnydd gorau o RITA ar gyfer lleihau meddyginiaeth: Cartref Gofal Pen y Garth, Wrecsam
- Gwobr Arian: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gweithgareddau grŵp: Chirk Court
- Gwobr Arian: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gofal un-i-un: Tîm Cyswllt Gofal Sylfaenol, Wrecsam
- Gwobr Efydd: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gweithgareddau grŵp: Bodlondeb
- Gwobr Efydd: Defnydd gorau o RITA yn cynnwys teuluoedd: Elm Villa
Meddai’r Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae RITA yn ddarn gwych o feddalwedd ac mae’n braf gweld cartrefi gofal yn Wrecsam yn derbyn cydnabyddiaeth am ei ddefnyddio. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Rydw i’n gyffrous am y datblygiadau diweddar yn y feddalwedd ac yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adnodd yn cael ei ddefnyddio ar draws y wlad yn y dyfodol.”
Mae RITA wedi cael diweddariadau cyffrous yn ddiweddar, yn cynnwys diweddariadau gan Glwb Pêl-Droed Wrecsam gyda rhaglenni gemau hanesyddol a delweddau cynnar o’r archif wedi’u hychwanegu. Mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi caniatáu ffilmio sawl gwasanaeth yng Nghaerdydd, yn cynnwys gwasanaethau’r Grawys, y Pasg a’r Nadolig, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
A, gorau oll, mae rhyngwyneb RITA bellach ar gael yn Gymraeg.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI