Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llongyfarchiadau! Cylch Chwarae a Mwy Heulfan yn derbyn Gwobr Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
20mph
Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngor Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Llongyfarchiadau! Cylch Chwarae a Mwy Heulfan yn derbyn Gwobr Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru
Y cyngor

Llongyfarchiadau! Cylch Chwarae a Mwy Heulfan yn derbyn Gwobr Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2023/01/04 at 9:40 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Heulfan
RHANNU

Mae Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.

Mae ennill y wobr glodwiw’n golygu bod Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi cyflawni camau gweithredu ar ystod eang o faterion iechyd gan gynnwys maeth ac iechyd y geg, gweithgarwch corfforol/chwarae’n egnïol, iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd, diogelwch, hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd hynny, maent hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ sy’n cydnabod y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad. Mae ganddynt fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.

Dywedodd Louise Roberts, Swyddog Lleoliadau Cyn-ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Cylch Chwarae a Mwy Heulfan wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad.

“Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Maent yn cofleidio pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arfer yn y lleoliad a gwneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”

Dywedodd Mrs Griffith, y Goruchwyliwr, “Rydyn ni’n falch iawn o ennill gwobr y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy! Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth rydyn ni wedi’i chael a byddwn yn dal ati i annog plant, rhieni a staff i ddatblygu a chynnal ffordd iach o fyw.

“Rydyn ni’n ffodus iawn yn ein lleoliad ni bod gennym gymaint o adnoddau i hyrwyddo lles y plant a’r staff. Hoffem ddiolch i Dîm Ysgolion Iach Cyngor Wrecsam am eich cymorth.”

Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Llun:

Staff rhes gefn (Ch–Dd) – Miss Karen, Miss Katy, Mrs Griffith, Miss Sue a Mrs Cooke.

Disgyblion (Ch–Dd) – Sigi, Isla, Madeline, Evelyn, Lucian, Elliot, Bodhi, Max, Erin, Kayden, Maja, Maya, Liam, Aubrey, Rohan, Theo, Arlo, Oliver, Gracie a Leo.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI

Rhannu
Erthygl flaenorol Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
Erthygl nesaf carnival of words 2023 Rhaglen gyffrous ar y gweill ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Hands
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
20mph
Y cyngorPobl a lle

Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English