Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 29, 2022 1:43 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
RHANNU

Mae saith cartref gofal yn Wrecsam wedi ennill gwobrau yn ddiweddar am y gwaith maen nhw’n ei wneud gyda RITA – meddalwedd therapi hel atgofion ac adfer rhyngweithiol.

Mae RITA yn ddatrysiad sgrin gyffwrdd sy’n cynnig therapi hel atgofion digidol ac yn adnodd gweddol newydd ym maes nyrsio a gofal iechyd. Mae’n cynnwys defnyddio sgriniau rhyngweithiol syml a llechen i gyfuno adloniant gyda therapi a chynorthwyo cleifion (yn arbennig cleifion gyda nam ar y cof) i gofio a rhannu digwyddiadau o’u gorffennol drwy weithgaredd fel gwrando ar gerddoriaeth, gwylio adroddiadau newyddion am ddigwyddiadau hanesyddol arwyddocaol, chwarae gemau, carioci a gwylio ffilmiau.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Cynhaliodd My Improvement Network seremoni wobrwyo’n ddiweddar i ddathlu’r rheiny sy’n defnyddio’r ddyfais ac i gyflwyno gwobrau i’r rheiny sydd wedi arddangos manteision y ddyfais. Llwyddodd saith lleoliad gofal yn Wrecsam i dderbyn gwobrau.

  • Gwobr Aur: Defnydd gorau o RITA ar gyfer anableddau dysgu: Dolywern, Leonard Cheshire                                                                    dolywern
  • Gwobr Aur: Defnydd gorau o RITA ar gyfer lleihau meddyginiaeth: Cartref Gofal Pen y Garth, Wrecsam                                         Saith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
  • Gwobr Arian: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gweithgareddau grŵp: Chirk CourtSaith cartref gofal yn Wrecsam yn ennill gwobrau am ddefnyddio meddalwedd hel atgofion
  • Gwobr Arian: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gofal un-i-un: Tîm Cyswllt Gofal Sylfaenol, Wrecsam
  • Gwobr Efydd: Defnydd gorau o RITA ar gyfer gweithgareddau grŵp: Bodlondeb
  • Gwobr Efydd: Defnydd gorau o RITA yn cynnwys teuluoedd: Elm Villa

Meddai’r Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae RITA yn ddarn gwych o feddalwedd ac mae’n braf gweld cartrefi gofal yn Wrecsam yn derbyn cydnabyddiaeth am ei ddefnyddio. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Rydw i’n gyffrous am y datblygiadau diweddar yn y feddalwedd ac yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adnodd yn cael ei ddefnyddio ar draws y wlad yn y dyfodol.”

Mae RITA wedi cael diweddariadau cyffrous yn ddiweddar, yn cynnwys diweddariadau gan Glwb Pêl-Droed Wrecsam gyda rhaglenni gemau hanesyddol a delweddau cynnar o’r archif wedi’u hychwanegu. Mae’r Eglwys yng Nghymru hefyd wedi caniatáu ffilmio sawl gwasanaeth yng Nghaerdydd, yn cynnwys gwasanaethau’r Grawys, y Pasg a’r Nadolig, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

A, gorau oll, mae rhyngwyneb RITA bellach ar gael yn Gymraeg.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dim parcio ym maeau parcio pobl anabl Gorsaf Fysiau Wrecsam ddydd Sul 1 Ionawr 2023 Dim parcio ym maeau parcio pobl anabl Gorsaf Fysiau Wrecsam ddydd Sul 1 Ionawr 2023
Erthygl nesaf Heulfan Llongyfarchiadau! Cylch Chwarae a Mwy Heulfan yn derbyn Gwobr Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English