Ar draws y fwrdeistref sirol, mae ein gwasanaethau llyfrgell yn gweithio’n galed i ddod ag ystod o weithgareddau a digwyddiadau i bawb. Mae pob oedran a diddordeb yn cael eu darparu ar eu cyfer ac mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau am ddim.
Wedi’i lleoli ar Heol y Castell, Coed-poeth, mae gan lyfrgell Plas Pentwyn ddewis o amwynderau ar gyfer y gymuned. Heddiw, byddwn yn edrych ar rai o’r sesiynau sydd ar gael.
Ymunwch â’r clwb
Ar ddydd Mawrth olaf y mis 2 pm – 3 pm, mae Clwb Llyfrau sy’n cyfarfod i drafod y llyfr diweddaraf a phopeth llenyddiaeth.
Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a bondio o’r cariad a rennir at ddarllen. Mae am ddim ac mae croeso i bawb.
I’r rhai iau, mae Clwb Lego wythnosol sy’n cyfarfod ar ddydd Mawrth 3.30 pm – 4.30 pm. Mae Lego yn ffordd wych i blant ddysgu llawer o sgiliau o ddatrys problemau a datrys gwrthdaro, i sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu.
Mae’r Clwb Lego yn gyfle i bobl ifanc gael ffordd hwyliog o ddysgu a gwneud ffrindiau newydd hefyd. Mae hwn yn addas ar gyfer plant 4+ oed ac mae am ddim i’w fynychu.
Ymarfer i’r ymennydd
Mae gan Blas Pentwyn yr union beth i’r rhai sy’n mwynhau pos. Mae ganddynt Glwb Scrabble wythnosol bob dydd Gwener 2 pm – 4 pm.
Dewch i ymuno yn y gêm eiriau yn y sesiwn am ddim hon. Gallwch roi eich meddwl ar brawf a chystadlu â seiri geiriau eraill.
Cyfleusterau ar y safle
Mae Plas Pentwyn yn ganolfan gymunedol sydd wedi’i lleoli 3.5 milltir o ganol y ddinas ac mae modd ei chyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gan yr adeilad cyfan fynediad i gadeiriau olwyn a Wi-Fi am ddim trwy’r adeilad cyfan. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau’r ardd gymunedol ar y safle.
Am ragor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Llai ar 01978 722980 neu e-bostio plaspentwyn@wrexham.gov.uk i gael gwybodaeth.


